Newyddion S4C

Rhaid 'parhau i gefnogi Wcráin', dwy flynedd ers cychwyn y rhyfel gyda Rwsia

24/02/2024
S4C

Mae’r Arglwydd David Cameron wedi annog gwledydd i barhau i gefnogi Wcráin, dwy flynedd ers dechrau'r rhyfel yn erbyn Rwsia.

Mae dydd Sadwrn yn nodi dwy flynedd ers i luoedd Rwsia lansio ymosodiad ar raddfa lawn ar Wcráin, sef yr ymosodiad mwyaf mewn gwlad Ewropeaidd ers yr Ail Ryfel Byd.

Mae Kyiv wedi cynnal streiciau o'r tu ôl i'r rheng flaen yn ystod yr wythnosau diwethaf ond wedi symud i safle amddiffynnol yn sgil prinder o arfau ar faes y gad.

Mewn neges i'w gyd-wladwyr ddydd Sadwrn, dywedodd Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky: "Rwy'n hynod falch o bob un ohonoch. Rwy'n edmygu pob un ohonoch. Rwy'n credu ym mhob un ohonoch. 

"Mae unrhyw berson arferol eisiau i'r rhyfel ddod i ben. Ond ni fydd yr un ohonom yn caniatáu i'r Wcráin ddod i ben.

"Dyna pam pan ddaw'n fater o ddod â'r rhyfel i ben, rydyn ni bob amser yn ychwanegu: ar ein telerau ni. 

"Dyna pam, yn y dyfodol, bydd y gair annibynnol bob amser yn ymddangos ochr yn ochr â'r gair Wcráin. Dyma beth rydyn ni'n ymladd drosto. A byddwn yn drech. Ar ddiwrnod mwyaf ein bywydau.

"Diolchaf i'n holl filwyr, ein pobl, a phawb o gwmpas y byd sy'n sefyll gyda ni a'r gwir. Gogoniant i Wcráin!"

Fe wnaeth arweinwyr o wledydd y gorllewin deithio i Kyiv ddydd Sadwrn i nodi'r achlysur ac i dangos eu cefnogaeth.

Fe wnaeth Arlywydd Comisiwn Undeb Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, Prif Weinidog yr Eidal, Giorgia Meloni, Prif Weinidog Canada , Justin Trudeau, a Phrif Weinidog Gwlad Belg, Alexander De Croo, ymddangos gyda Mr Zelensky i dalu teyrnged i luoedd Wcráin ym Maes Awyr Hostomel.

Dywedodd Ursula von der Leyen: “Safodd Kyiv yn gryf. Roedd eich dewrder yn sefyll yn ffordd Putin.

“Fe lwyddoch chi i atal ymosodiad Rwsia i galon Wcráin. Fe wnaethoch chi achub eich gwlad, achuboch chi Ewrop gyfan.”

Rhybudd

Mae Ysgrifennydd Tramor y DU wedi rhybuddio cynghreiriad yn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn “blinder” wrth gefnogi Kyiv, gan annog gwledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau i barhau a'u cefnogaeth.

Dywedodd y cyn Prif Weinidog fod yn rhaid i’r byd “gydnabod cost rhoi’r gorau iddi” mewn araith yn Efrog Newydd, dwy flynedd wedi lluoedd Rwsia, dan arweiniad yr arlywydd Vladimir Putin, geisio goresgyn Wcráin.

Image
David Cameron
Yr Arglwydd David Cameron

Mae gwledydd Ewropeaidd yn ymdrechu i ddod o hyd i ddigon o stoc i’w hanfon i Kyiv, tra bod cymorth yr Unol Daleithiau gwerth 60 biliwn o ddoleri (£47 biliwn) wedi’i atal oherwydd dadlau gwleidyddol yn Washington.

'Anghywir'

Wrth siarad yng nghynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ddydd Gwener, dywedodd yr Arglwydd Cameron: “Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rwy’n cydnabod bod rhai eisiau ail-feddwl. Mae teimlad o flinder. Mae problemau eraill.

“Gall cyfaddawd ymddangos yn ddeniadol. Ond mae hyn yn anghywir. Rhaid i ni gydnabod y gost o roi’r gorau iddi.

“Mae Putin wedi dweud na fydd heddwch nes bod nodau Rwsia wedi’u cyflawni. Ac yn ei gyfweliad diweddaraf, llwyddodd i osgoi cadarnhau ei fod yn fodlon â’r tir mae wedi cipio o’r Wcráin ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Tramor: “Nid dyn sy’n ceisio cyfaddawd yw hwn. Yn hytrach, bwli neo-imperialaidd yw hwn sy’n credu y gallai hynny fod yn iawn.”

Fe wnaeth yr Arglwydd Cameron hefyd adnewyddu ei apêl i wleidyddion yr Unol Daleithiau i basio pecyn cymorth gwerth biliynau o ddoleri gan gynnwys cefnogaeth i’r Wcráin, gan ddweud wrth ohebwyr yn ystod ei ymweliad: “Mae hyn yn sylfaenol yn ymwneud â diogelwch yr Unol Daleithiau hefyd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.