Annog pensiynwyr ar incwm isel i hawlio 'cannoedd o bunnoedd' cyn dyddiad cau
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai miloedd o bensiynwyr yng Nghymru fod yn gymwys i ennill cannoedd o bunnoedd pe bai iddyn nhw hawlio credyd pensiwn yn ystod y 10 diwrnod nesaf.
Gall rhai pensiynwyr hawlio £299 o gredyd pensiwn ychwanegol wrth i daliadau costau byw gael ei ôl-ddyddio.
Ond bydd rhaid i bobl gwneud cais am yr arian erbyn 5 Mawrth, ac mae adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn annog pobl i wirio os ydyn nhw’n gymwys i gael eu talu cyn y dyddiad cau.
Mae dros 82,000 o bensiynwyr yng Nghymru eisoes yn derbyn credyd pensiwn, ond mae ‘na rhai aelwydydd sydd dal heb wneud cais.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: “Mae Llywodraeth y DU yn ymwybodol bod y rheiny sydd ar incwm isel angen cymorth ychwanegol a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallant nhw, neu rywun y maent yn gofalu amdanynt, fod yn gymwys i wirio cyn gynted â phosibl.”
'Annog'
Ar gyfartaledd mae’r rheiny sy’n derbyn credyd pensiwn yn cael eu talu oddeutu £3,900 y flwyddyn. Mae’r arian ar gael i’r rheiny sydd wedi cyrraedd y trothwy i dderbyn pensiwn gan y wladwriaeth ac sydd ar incwm isel.
Gall unigolion derbyn isafswm o £201.05 mewn incwm wythnosol, tra gall cyplau derbyn £306.85.
Dywedodd Gweinidog Pensiynau Llywodraeth y DU, Paul Maynard: “Dylai unrhyw un sy’n ansicr a oes ganddyn nhw neu eu hanwyliaid hawl i gredyd pensiwn wirio gan ddefnyddio ein cyfrifiannell Credyd Pensiwn ar-lein.
“Fe allai hynny arwain at £3,900 ychwanegol y flwyddyn yn ogystal â chymorth ychwanegol… ac fe allai hwb pellach o £299 cael eu hawlio petai i geisiadau cael eu gwneud yn llwyddiannus erbyn 5 Mawrth.”
Bydd pensiwn y wladwriaeth yn codi 8.5% ym mis Ebrill 2024 – sy’n golygu y byddai pensiynwyr yn cael eu talu £221.220 yr wythnos.