Un person wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng ngorllewin Sir Gâr
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod un person wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yng ngorllewin Sir Gâr.
Fe gafodd saith o griwiau o Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, a thîm chwilio ac achub eu hanfon i ddiffodd y tân ym Meidrim yn ystod oriau mân y bore ar ddydd Gwener, 9 Chwefror.
Dywedodd y llu bod y difrod i'r eiddo yn helaeth ac nid oedd yn ddiogel mynd i mewn ar unwaith.
Roedd un person ar goll yn dilyn y digwyddiad, a bellach mae'r heddlu wedi cadarnhau bod y person hwnnw wedi marw yn y fan a’r lle. Nid yw'r heddlu wedi enwi'r person fu farw hyd yma
Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod achos y tân, ac mae ymchwilwyr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a swyddogion lleoliadau trosedd Heddlu Dyfed-Powys yn debygol o fod yn y tŷ am sawl diwrnod arall.
Mae ffordd brysur y B4299, sydd ger y tŷ, ar gau tra bod ymholiadau'n parhau.
Mae'r heddlu wedi diolch i aelodau’r gymuned am eu cefnogaeth drwy gydol y digwyddiad.