Ffermwyr yn cynnal protestiadau yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Hen Golwyn
Ffermwyr yn cynnal protestiadau yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Hen Golwyn
Mae cannoedd o gerbydau fferm wedi teithio i Aberystwyth wrth i ffermwyr barhau â phrotestiadau yn erbyn cynlluniau amaethyddol Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth pum confoi o dractorau a cherbydau fferm deithio i’r dref ar hyd gwahanol ffyrdd fore dydd Iau, cyn i dorf o brotestwyr gerdded tuag at adeiladau’r Llywodraeth.
Cafodd areithiau eu cynnal y tu allan i’r adeiladau, wrth i amaethwyr fynegi eu hanniddigrwydd gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.
Inline Tweet: https://twitter.com/LloydCymru/status/1760658170882519179?s=20
Roedd Heddlu Dyfed Powys yn bresennol yn y brotest er mwyn rheoli traffig.
Mae amcangyfrif fod dros 250 o gerbydau wedi cyrraedd y dref ar gyfer y digwyddiad.
Cafodd protestiadau hefyd eu cynnal yng Nghaerfyrddin a Hen Golwyn ddydd Iau.
Dadleuol
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y cynllun ar hyn o bryd, fydd yn cau ar 7 Mawrth.
Mae'r cynllun yn rhoi mwy o bwyslais ar ffermio sy'n llesol i'r amgylchedd, ac yn disodli’r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymreig.
Y bwriad yw cynnal a gwella'r amgylchedd naturiol, lleihau allyriadau carbon a gwella safon bywyd yr anifeiliaid ar ffermydd.
Ond mae rhai agweddau o’r cynllun yn ddadleuol, yn enwedig yr angen i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu â choed.
Ac mae protestiadau eisoes wedi eu cynnal yng Nghaerfyrddin, Wrecsam a'r Drenewydd wrth i dractorau a cherbydau amaethyddol yrru'n araf ar ffyrdd yr ardal.
Mae'r protestwyr hefyd yn anfodlon â pholisiau eraill, fel TB mewn gwartheg a bywyd gwyllt, ac amodau'r cynllun atal llygredd mewn afonydd.
‘Ansicrwydd’
Mewn datganiad fore Iau, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths bod y cynllun arfaethedig ynghylch defnydd tir wedi newid yn sgil ymatebion ffermwyr hyd yma.
Ychwanegodd ei bod yn cwrdd yn “rheolaidd” gydag undebau amaeth, gan ddweud ei bod yn “hanfodol pwysig” fod ffermwyr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
"Enw'r ymgynghoriad hwn yw Cadw Ffermwyr i Ffermio, a dyna ein nod yn union. Rwy'n gwybod bod hwn yn gyfnod o ansicrwydd i'r sector ffermio wrth inni gynllunio cymorth yn y dyfodol.
"Mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn. Rwyf am i'n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Dyna pam rydyn ni wedi cynnwys y diwydiant bob cam o'r ffordd, ac mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
“Dydyn ni erioed wedi cynnal broses ymgysylltu mor drylwyr â'n ffermwyr a'n rhanddeiliaid.
"Mae hwn yn ymgynghoriad gwirioneddol ac rwy'n sicrhau y bydda i'n gwneud newidiadau i'r cynigion o ganlyniad i'r ymatebion. Rydyn ni'n gwrando, a byddwn yn ystyried yr holl ymatebion."
Lluniau: X / Lloyd Warburton