Cymru yn teithio i Slofacia ar gyfer gêm gyfeillgar cyn Euro 2024
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu Slofacia mewn gêm gyfeillgar oddi cartref ym mis Mehefin.
Bydd y ddau dîm yn cwrdd ddydd Sul 9 Mehefin. Nid oes gadarnhad ar leoliad y gêm eto, ond mi fydd yn cael ei chynnal Bratislava neu Trnava.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae bron i wyth mlynedd i'r diwrnod ar ôl buddugoliaeth hanesyddol Cymru dros Slofacia yn Euro 2016, pan enillodd Gymru 2-1 yn Bordeaux.
Fe wnaeth y ddau dîm gwrdd yn y gemau rhagbrofol i gyrraedd pencampwriaeth UEFA Euro 2020, nôl yn 2019.
Sgoriodd Dan James i sicrhau buddugoliaeth 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe wnaeth Kieffer Moore sgorio i sicrhau gêm gyfartal oddi cartref 1-1 yn Trnava.
Gyda thîm Rob Page yn paratoi ar gyfer y gemau ail-gyfle i gyrraedd UEFA Euro 2024, mae Slofacia wedi cyrraedd y bencampwriaeth yn barod, a fydd yn dechrau yn yr Almaen pum diwrnod ar ôl y gêm gyfeillgar.
Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi dweud y byddant yn cadarnhau gwybodaeth am docynnau maes o law.