Coeden yn Wrecsam yn cystadlu am wobr Coeden y Flwyddyn Ewrop 2024
Bydd pleidlais ar gyfer gwobr Coeden y Flwyddyn Ewrop 2024 sy'n cynnwys Gastanwydden Bêr yn Wrecsam yn cau brynhawn ddydd Iau.
Mae aelodau o’r cyhoedd ar draws y byd wedi bod yn pleidleisio arlein am eu hoff goeden o restr o 15 o goed gwahanol o wledydd Ewropeaidd.
Roedd y gastanwydden bêr yn Wrescsam eisoes wedi cipio teitl ‘Coeden y Flwyddyn’ yng nghystadleuaeth Coed Cadw ledled y DU y llynedd, gan ennill dyrchafiad i'r gystadleuaeth Ewropeaidd.
Mae’r cystadleuaeth - sy'n chwilio am goeden sydd â'r stori fwyaf diddorol - yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng cymunedau lleol â’u hamgylchedd naturiol, ac eleni mae’n cael ei chefnogi gan y Weinyddiaeth Amgylchedd Tsiec.
Ond mae'r canlyniadau diweddaraf yn awgrymu fod gan y goeden fynydd i'w ddringo os yw hi am ddod i'r brig.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, a gafodd eu cyhoeddi ar 14 Chwefror, coeden 'Calon yr Ardd' yng Ngwlad Pwyl sydd ar y brig gyda 21,808 o bleidleisiau.
Mae’r Castanwydden Bêr ym Mharc Acton, Wrecsam, ar hyn o bryd yn y degfed safle gyda 4,085 o bleidleisiau.
'Coeden anhygoel'
Dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer o drigolion Wrecsam wedi bod yn ymgyrchu ar-lein i gael eu coeden i frig y rhestr.
Ond bellach dim ond oriau sydd ganddyn nhw ar ôl i ddiogelu rhagor o bleidleisiau.
Fe fydd y bleidlais gyhoeddus yn cau am 15:00 dydd Iau, gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Senedd Ewrop ar ddydd Mercher, 20 o Fawrth 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd “Mae hon yn goeden anhygoel ac yn ffefryn i nifer o genedlaethau o bobl yn yr ardal.
“Cofiwch fwrw pleidlais a lledaenu’r neges i sicrhau ei fod yn cael cydnabyddiaeth mae’n ei haeddu ar draws Ewrop.”
Mae cwmpas y goeden yn 6.1m a’i huchder yn 24m, sy’n awgrymu ei bod wedi bod yn sefyll ers oddeutu 490 o flynyddoedd.
Mae wedi gwrthsefyll nifer fawr o heriau yn ystod ei hanner mileniwm ar y ddaear, o ddinistrio’r parc er mwyn cael coed tân yn y 1940au yn dilyn y rhyfel, i ddwsinau o stormydd angheuol, gan gynnwys yn 2021 pan gollodd nifer o’r coed eu canghennau neu eu chwythu i’r llawr yn llwyr.