Newyddion S4C

Gwrthwynebiad i gynllun i osod peilonau trydan yng Ngheredigion a Sir Gâr

22/02/2024
Cyfarfod Cellan

Bydd cyfarfod i drafod cynllun dadleuol i osod peilonau trydan yng Ngheredigion a Sir Gâr ddydd Iau.

Mae ymgynghoriad ar osod y peilonau sydd wedi bod yn mynd rhagddo ers rhai wythnosau yn cynnwys cyfarfod yn neuadd pentref Cellan o 14.00 nes 19.00.

Mae nifer wedi mynegi pryderon am y cynllun i adeiladu peilonau dur 27m o uchder a llinellau trydan uwchben y ddaear o Landdewi Brefi ar hyd Dyffryn Teifi i Gaerfyrddin.

Mae’r llwybr sydd yn cael ei ffafrio yn gallu cael ei gweld yma. Mae hi’n teithio o Lan Fawr ger Cellan, i Lanllwni, Alltwalis, Rhydargaeau cyn gorffen ger Llandyfaelog.

Bute Energy ydi’r cwmni sydd wrthi’n cynnal ymgynghoriad ar gynlluniau arfaethedig yn ardaloedd ‘Tywi Teifi’ i adeiladu peilonau a chysylltu ffynonellau ynni gwyrdd â’r grid trydan o dan y cynllun sy’n cael ei galw yn ‘Green GEN Cymru’.

Mewn datganiad fe ddywedodd Green Gen Cymru a Bute Energy eu bod nhw wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn "ymgysylltu â chymunedau" ac yn "gwrando ar bryderon".

"Rydym am ateb eu cwestiynau a sicrhau bod ein gwaith yn y rhanbarth yn adlewyrchu barn cymunedau ac yn cefnogi dyheadau Cymru ar gyfer dyfodol gwyrddach."

'Ddim eisiau nac angen'

Mae cyfarfodydd ‘Na i Beilonau / No to Pylons’ wedi digwydd ar hyd a lled yr ardaloedd arfaethedig.

Dywedodd Christine Lambert o Cellan a fynychodd cyfarfod ar y pwnc yn y pentref ddydd Sadwrn fod y cynllun arfaethedig yn “ddiangen”.

“Roedd y cyfarfod yn orlawn; o fewn munudau roedd yna le i sefyll yn unig," meddai.

“Cafwyd cyfnewid bywiog o safbwyntiau, syniadau a phrofiadau a chonsensws cyffredinol y cyfarfod oedd nad ydym eisiau nac angen y peilonau a’r llinellau trydan yn difetha ein dyffryn ac yn effeithio ar y tir a bywyd gwyllt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Rhys Williams sy’n ffermio yn yr ardal wrth Radio Cymru ei fod yn “Dryweryn newydd i’n cenhedlaeth ni”.

“Yr unig wahaniaeth tro ‘ma ydi bod y gorchymyn wedi dod o Gaerdydd,” meddai.

Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal tan 6 Mawrth ynglyn â’r cynlluniau.

Llun gan Christine Lambert.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.