Newyddion S4C

Mam yn galw am wahardd gyrwyr dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ar unwaith

22/02/2024
Miriam Briddon

Mae mam dynes a fu farw mewn gwrthdrawiad yn cefnogi trafodaethau ynglyn â gwahardd gyrwyr sydd dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn y fan a’r lle.

Mae Ms Briddon wedi ymgyrchu dros roi cosbau llymach ar ôl i’w merch, Miriam (uchod), oedd yn 21 oed, farw mewn gwrthdrawiad gyda char oedd yn cael ei yrru gan yrwyr oedd dros y terfyn alcohol, yn 2015.

Daw wrth i benaethiaid yr heddlu gynnal trafodaethau ynglyn â pha brofion allai gael eu cynnal ar ochr y ffordd, a’r newidiadau cyfreithiol y byddai angen i’w gweithredu.

Cafodd Gareth Entwhistle, oedd yn 34 oed ar y pryd, ddedfryd carchar wedi iddo gyfaddef i achosi marwolaeth Miriam Briddon heb ofal.

Treuliodd bum mlynedd yn y carchar ac fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd.

Yn sgil y ddedfryd, fe wnaeth Ms Briddon ymgyrchu dros newid yn y gyfraith lle gallai unigolion sydd yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus wynebu dedfryd oes.

Dywedodd Ms Briddon: “Byddwn i’n herio unrhyw un i ddweud wrtha i, sut fydden nhw’n teimlo pe baent wedi lladd person? Sut fydden nhw’n teimlo pe baent  wedi difetha bywyd teulu? 

“Rwy’n teimlo’n gryf y dylai hyd y ddedfryd adlewyrchu’r drosedd.”

Image
Ceinwen Briddon
Ceinwen Briddon

‘Oddi ar y ffordd’

Mae’r Prif Gwnstabl Jo Shiner, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) ar gyfer plismona’r ffyrdd, hefyd yn galw am gosbau llymach i yrwyr sy’n lladd dan ddylanwad, gan gynnwys cyhuddiadau llofruddiaeth posib.

Meddai: “Byddai’r gallu i ni allu gwahardd pobl naill ai am yfed a gyrru neu yrru dan ddylanwad cyffuriau ar ochr y ffordd yn golygu y gallwn gymryd y risg honno oddi ar y ffordd ar unwaith.”

Mae’r syniad o roi gwaharddiadau ar unwaith i yrwyr sydd dan ddylanwad hefyd yn cael ei gefnogi gan Ceinwen Briddon. 

Ychwanegodd Ms Shiner: “Dylem gael llawer mwy o ddedfrydau yn enwedig i’r bobl hynny sy’n lladd neu’n anafu pobl ar y ffyrdd yn ddifrifol.

"Maent wedi gwneud penderfyniad i fynd i mewn i gerbyd ac felly i roi pobl eraill mewn perygl.”

Daeth eu sylwadau wrth i'r heddlu gyhoeddi canlyniadau cenedlaethol ymgyrch Nadolig ar yrru dan ddylanwad Op Limit.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru arestio dros 240 o bobl dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau dros yr ŵyl, tra bod Heddlu’r Gogledd wedi arestio 100 o bobl.

Prif lun: Ceinwen Briddon

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.