Aelod Seneddol newydd Chesham ac Amersham yn tyngu llw yn Gymraeg
21/06/2021
Aelod Seneddol newydd Chesham ac Amersham yn tyngu llw yn Gymraeg
Mae aelod seneddol newydd Chesham ac Amersham wedi tyngu llw yn Gymraeg yn Nhŷ'r Cyffredin.
Yn wreiddiol o Gorwen, fe dyngodd Sarah Green lw yn y Saesneg ac yna yn Gymraeg brynhawn dydd Llun.
Mae'n rhaid tyngu llw yn y Saesneg yn gyntaf, ond mae'r drefn yn caniatáu i aelodau Senedd y DU wneud yn y Gymraeg, Cernyweg a Gaeleg yr Alban hefyd.
Mae Ms Green yn cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol, a gipiodd y sedd oddi wrth y Ceidwadwyr mewn isetholiad ddydd Iau diwethaf.
Dyma'r tro cyntaf i'r Ceidwadwyr golli yno ers i'r etholaeth gael ei ffurfio yn 1974, ac roedd gan y blaid fwyafrif o 16,000 yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2019.
Fideo: Parliament TV