'Mae gennym ni ddau adra erbyn hyn': Profiad Nataliia a Sofiia o Wcráin o fyw yng Nghymru
'Mae gennym ni ddau adra erbyn hyn': Profiad Nataliia a Sofiia o Wcráin o fyw yng Nghymru
Ar drothwy dwy flynedd ers cychwyn y rhyfel yn Wcráin, mae dwy ferch ifanc a wnaeth ffoi o'u mamwlad wedi dweud eu bod nhw'n teimlo bod ganddyn nhw ddau gartref erbyn hyn.
Fe wnaeth Nataliia a Sofiia gyrraedd Cymru yn ôl yn haf 2022, gan dreulio eu misoedd cyntaf yn mynychu Uned Trochi’r Gymraeg arbenigol yn Ysgol Moelfre.
Mae'r ddwy bellach yn ddisgyblion yn Ysgol Llanfairpwll, ac wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Bron i ddeunaw mis ers eu cyfweliad cyntaf yn y Gymraeg, mae Nataliia, sydd bellach yn 10 ac o Odessa, a Soffia, sydd yn naw ac o Kryvyi Rih, yn brysur aeddfedu ac yn dal i fwynhau eu bywyd yma yng Nghymru.
"Wel lot o mathemateg, sgwennu Cymraeg, sgwennu dipyn bach o Saesneg," meddai Sofiia.
Mae Nataliia, sy'n siarad pedair iaith, yn ceisio siarad gyda'i theulu a'i ffrindiau yn aml.
"Dwi'n arfer siarad efo nhw, ma ' Mam yn trio sgwennu nhw bron bob dydd. Ma' Mam yn trio ond dydyn nhw ddim yn gallu siarad bron bob dydd, dwi'n sgwennu i nhw lot," meddai.
Ychwanegodd Sofiia: "Mae Taid fi yn Wcráin, mae Wncl fi yn Wcráin ac mae Auntie yn Wcráin ac mae Grandma i yn Wcráin.
"Maen nhw'n dweud bod hi'n oer, mae nhw ofn achos ti byth yn gwybod lle mae bomb yn dod."
Mae Nataliia yn ddiolchgar iawn am ei ffrindiau yng Nghymru.
"Dwi wedi gwneud lot o ffrindiau yn fama, oherwydd wnes i wedi bod yn tri ysgol yn fama, wedi neud lot o ffrindiau yn fama, a dwi efo lot o ffrindiau yn Wcráin so dwi efo dau adra," meddai.
Hoff air Nataliia ychydig fisoedd yn ôl oedd 'archfarchnad', gan ei ynganu yn berffaith hefyd.
Ond mae yna air arall sydd bellach yn un o'u hoff rai hefyd.
"Archfarchnad a hefyd rŵan dwi'n licio un fwy o gair, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch!" meddai.
'Dim ond eisiau bod yn saff'
Er mai diogelwch oedd yr unig beth oedd yn bwysig i deulu'r merched wrth gyrraedd Cymru, mae eu gweld yn ffynnu mewn iaith a diwylliant gwahanol wedi bod yn galonogol iawn iddynt.
Dywedodd Mam Sofiia Yuliia Nepliakh: "Pan ddaethon ni i Gymru bron i ddwy flynedd yn ôl, dim ond eisiau bod yn saff oeddem ni. Nes i ddim meddwl am addysg - dim ond bod y plant yn ddiogel.
"Rwan maen nhw wedi gwneud ffrindiau newydd, ac wedi cyfarfod llawer o bobl ffeind. Pan dwi'n dechrau siarad am y peth a meddwl am y gorffennol, mae'n anhygoel meddwl beth sydd wedi digwydd yn ystod ein bywydau ni."
Ychwanegodd Nain Nataliia Larysa Dobrovolska: "'Dan ni wedi setlo'n dda yma - dwi'n falch iawn bod fy merch a'n wyres i'n ddiogel ac yn hapus. Ond dwi eisiau i 'mhlant a'n wyres fod yn rhydd a chael byw mewn Wcrain annibynnol.
"Dwi eisiau dweud diolch yn fawr i bobl Cymru. Dwi wedi cwrdd a llawer o bobl anhygoel, sydd wedi'n helpu ni cymaint. Roedd fy wyres Nataliia yn hapus iawn yn dysgu Cymraeg yn yr uned iaith yn Amlwch pan ddaethon ni yma. Dwi eisiau diolch i'r athrawon i gyd."