Newyddion S4C

Yr actor Ewen MacIntosh wedi marw yn 50 oed

21/02/2024
Ewan MacIntosh

Mae’r actor Ewen MacIntosh wedi marw yn 50 oed.

Roedd Ewen MacIntosh, a gafodd ei eni yn Sir Feirionnydd, yn fwyaf adnabyddus fel y cymeriad Keith Bishop yng nghyfres boblogaidd The Office gyda Ricky Gervais. 

Mewn neges drydar dywedodd Gervais: “Newyddion trist ofnadwy. Mae Ewen MacIntosh doniol a hyfryd dros ben, oedd yn cael ei adnabod fel ‘Big Keith’ i nifer, wedi marw. Dyn hollol unigryw. RIP.”

Er iddo ymddangos mewn nifer o raglenni fel Miranda a Little Britain, mae MacIntosh yn cael ei gysylltu fwyaf â chyfres gomedi The Office lle roedd yn portreadu cyfrifydd oedd yn breuddwydio cael bod yn DJ.

Mewn datganiad gan ei gwmni rheoli, Just Right Management, mae’n nhw’n dweud: “Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth heddychlon ein athrylith comedi Ewen MacIntosh. 

“Mae ei deulu yn diolch i bawb wnaeth ei gefnogi, yn arbennig Cartref Gofal Willow Green. Bydd amlosgiad preifat ar gyfer teulu a ffrindiau agos yn fuan ac yna dathliad i’w gofio yn hwyrach yn y flwyddyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.