Cyhuddo dau ddyn o dde Cymru o gludo dros 500 o fudwyr yn anghyfreithlon ar draws Ewrop
Mae dau ddyn o dde Cymru wedi’u cyhuddo fel rhan o ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i grŵp yr honnir iddo symud mwy na 500 o fudwyr yn anghyfreithlon drwy Ewrop.
Mae Dilshad Shamo, 41, o Gastell Morgraig, ac Ali Khdir, 42, o Heol Pontygwindy, Caerffili, wedi’u cyhuddo o gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon. Fe ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Casnewydd cyn cael eu cadw yn y ddalfa.
Fe fydd y ddau yn ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd ar 18 Mawrth.
Honnir eu bod wedi gweithredu grŵp smyglo pobl, gan drefnu i fudwyr gael eu symud ar gychod, lorïau a cheir o Irac, Iran a Syria trwy’r UE i’r Eidal, Rwmania, Bwlgaria, Slofenia, yr Almaen a Ffrainc.
Y gred yw mai diwedd y daith i lawer o'r mudwyr hyn oedd y DU.
'Grŵp troseddol ehangach'
Honnir bod Shamo a Khdir wedi gweithio fel rhan o grŵp troseddol ehangach i hwyluso symud mudwyr, gan dorri cyfreithiau mewnfudo’r UE.
Cafodd y dynion eu harestio i ddechrau ym mis Ebrill 2023 a’u cyhuddo ar ôl ateb mechnïaeth ddydd Sul.
Dywedodd Rheolwr Cangen yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Derek Evans: “Mae’r ymchwiliad hwn yn ymwneud â dau o drigolion y DU sy’n cael eu hamau o drefnu’r logisteg o symud mudwyr anghyfreithlon drwy Ewrop.
“Mae arestio a chyhuddo’r unigolion hyn yn tarfu’n fawr ar grŵp troseddau cyfundrefnol rhyngwladol yr honnir eu bod wedi symud cannoedd, os nad miloedd, o ymfudwyr yn anghyfreithlon ar draws ffiniau.
“Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn mynd i’r afael â throseddau mewnfudo cyfundrefnol fel blaenoriaeth a byddwn yn parhau â’n gwaith gyda phartneriaid i darfu ar y rhwydweithiau sy’n ymwneud â phob rhan o’r llwybr.”