Newyddion S4C

'Arwr tawel': Teyrngedau i Gwilym Tudur, yr awdur, ymgyrchydd a chyd-sylfaenydd Siop y Pethe

20/02/2024
Gwilym Tudur

Mae dyn a sefydlodd y siop Gymraeg gyntaf o’i bath gyda’i wraig, ac a chwaraeodd ran bwysig yn y brotest gyntaf gan Gymdeithas yr Iaith, wedi marw.

Bu farw Gwilym Tudur a oedd yn ddyn busnes, ymgyrchydd, ac awdur, yn 83 oed ddydd Sul.

Roedd yn wreiddiol o Chwilog ond bu’n byw yn Lledrod, Ceredigion am sawl blwyddyn. 

Sefydlodd Siop y Pethe ar gornel Sgwâr Glyndŵr yn Aberystwyth ym mis Rhagfyr 1968 gyda’i wraig Megan.

Roedd siopau llyfrau Cymraeg wedi bodoli cyn hynny ond Siop y Pethe oedd y gyntaf i gynnig ‘y pethe’ Cymraeg yn fwy cyffredinol gan gynnwys cardiau a cherddoriaeth.

Gosododd y patrwm ar gyfer nifer o siopau Cymraeg eraill sy’n bodoli hyd heddiw.

Roedd ef a’i wraig Megan hefyd yn rhan o brotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith yn y dref ar 2 Chwefror 1963, a Gwilym wthiodd am gau Pont Trefechan er mwyn denu cyhoeddusrwydd y wasg.

Siop y Pethe oedd lleoliad swyddfa gyntaf Cymdeithas yr Iaith hefyd ar ddechrau’r 1970au.

Roedd Gwilym hefyd yn awdur ac ymysg ei gyfrolau roedd Wyt ti'n cofio? a gyflwynodd hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y 24 mlynedd gyntaf.

Fe wnaeth hefyd addasu llyfrau plant gan gynnwys llyfrau Siôn Corn Raymond Briggs.

Penderfynodd Gwilym a Megan werthu Siop y Pethe yn 2013 ar ôl 45 mlynedd wrth y llyw ac ymddeol, a symud i Gaernarfon yn 2019.

Cafodd y ddau eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2014.

'Dylanwad mawr'

Dywedodd cyn AS ac AC Plaid Cymru, Cynog Dafis fod y cam o sefydlu Siop y Pethe yn un "mentrus" a "dylanwadol".

"Mae rôl Gwilym mewn amryw gyfeiriadau wedi bod yn allweddol," meddai wrth Radio Cymru.

"Yn sicr roedd Gwilym yn arwr tawel. Roedd o fel craig yn gefn i fi, yn gweithio yn y cefndir o'r golwg.

"Doedd o byth yn chwilio am gyhoeddusrwydd. Ond roedd yn ddyn cryf, yn ddyn dewr, yn ddyn di-ofn iawn.

"Roedd yn gweld beth oedd angen ei wneud ac yn ei wneud heb yn aml iawn yn cymryd rôl flaenllaw iawn yn yr ymgyrchoedd yna."

Dywedodd fod hefyd angen cofio rôl ei wraig Megan oedd yn "ddynes busnes hynod o alluog ac ymroddedig".

"Roedd y ddau gyda'i gilydd yn gwneud peth pwysig wrth sefydlu'r siop yna," meddai.

Un o'r rheini a dalodd deyrnged i Gwilym Tudur oedd un o hoelion wyth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ffred Ffransis.

"Nid yn unig fod Gwilym a Megan wedi bod yno o'r cychwyn wrth i Gymru fynnu dyfodol i'r iaith a chreu'r cyffro gyda Chymdeithas yr Iaith, ond gwnaeth Gwilym hefyd sicrhau fod trosglwyddo'r brwdfrydedd a'r arweiniad call i'r criw nesaf," meddai mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Bu Gwilym yn ddylanwad mawr arnaf, yn gymeriad ryw saith mlynedd yn hŷn na'n criw ni yng Ngholeg Aberystwyth ac wedi ymsefydlu yn Siop y Pethe i fyw'r bywyd Cymraeg - ei holl fywyd yn brotest dros Gymru.

"Nid yn unig iddo fy ysbrydoli i a'm cyfoedion o fyfyrwyr, ond rhoddodd gyngor ymarferol a threfnu llawer ar ein cyfer. Deallais i bwysigrwydd hyn, a dwi innau wedi ceisio ei efelychu byth oddi ar hynny'n ceisio pasio mlaen i'r criw nesaf yr hyn ddysgon ni trwy weithredu."

Llun gan Helen Greenwood.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.