Drakeford: Ffermwyr ddim yn gallu disgwyl miliynau o arian cyhoeddus ‘i wneud beth maen nhw ei eisiau’
Drakeford: Ffermwyr ddim yn gallu disgwyl miliynau o arian cyhoeddus ‘i wneud beth maen nhw ei eisiau’
Mae Mark Drakeford wedi dweud nad oes modd i ffermwyr Cymru ddisgwyl cannoedd o filiynau o arian cyhoeddus “i wneud beth maen nhw ei eisiau”.
Roedd y Prif Weinidog yn ymateb wedi i nifer o brotestiadau gyrru'n araf gael eu cynnal dros yr wythnosau diwethaf.
Mae nifer o gyfarfodydd tanllyd gan ffermwyr hefyd wedi eu cynnal yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys yn Arberth, Caerfyrddin a'r Trallwng.
Ymysg pryderon cynyddol ffermwyr, mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a'r ymateb i'r cynnydd mewn TB, neu’r diciâu mewn gwartheg.
Mae arweinwyr undebau amaeth yn cwrdd â’r gweinidog dros faterion amaeth i drafod y materion hyn ddydd Llun.
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn “deall ei fod yn amser anodd i bobol yng Nghymru wledig, a bod pobl yn teimlo bod eu ffordd o fyw dan warchae”.
Ond roedd newidiadau i daliadau i ffermwyr yn “amhosib eu hosgoi” yn sgil Brexit, meddai.
“Cyn gynted ag y penderfynodd y DU adael yr Undeb Ewropeaidd roedd rhaid i’r gefnogaeth i ffermwyr newid,” meddai.
'Dyfodol'
Dywedodd Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru eisiau parhau i gefnogi ffermwyr yng Nghymru yn ariannol.
Ond doedd yna ddim bygythiad mwy i ddyfodol ffermio na newid hinsawdd, meddai.
“Ni all y fargen fod, bod y cyhoedd yn rhoi eu llaw yn eu poced a rhoi milynau o bunnoedd – cymaint a £300m – i ffermwyr iddyn nhw gael gwneud beth bynnag maen nhw ei eisiau gyda’r arian,” meddai.
“Y fargen yw bod modd i Lywodraeth Cymru a’r cyhoedd ddisgwyl ad-daliadau ar eu buddsoddiad yn nyfodol ffermio.
“Mae yna bethau y tu hwnt i gynhyrchu bwyd ydan ni eisiau i ffermwyr ei wneud.
“Mae mwyafrif helaeth y lleisiau yn y gymuned ffermio yn deall nad dyna’r ffordd i wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd.”
Wrth drafod y protestiadau gyrru'n araf, dywedodd Mark Drakeford mai ei bwynt dechreuol oedd bod protestio cyfreithiol yn hollol iawn.
“Mae’n rhan bwysig iawn o’r ffordd yr ydym yn cynnal dadl a thrafodaeth yma yng Nghymru,” meddai.
“A thra bod pobl yn cynnal y protestiadau hynny mewn ffordd sy'n gyson â'r gyfraith, yna mae gan bobl hawl i wneud hynny.
“Mae cael effaith fawr ar fywydau pobl eraill sy'n eu hatal rhag mynd o gwmpas eu busnes nhw yn rhywbeth rwy'n siŵr y bydd y rhai sy'n ymwneud â'r protestiadau eisiau meddwl amdano.
“Byddwn yn meddwl yn ofalus.”
Y cefndir
Mae’r Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y cynllun ffermio cynaliadwy ar hyn o bryd a fydd yn dod i ben ar 7 Mawrth.
Maen nhw wedi dweud na fydd “unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch y cynllun”.
Mae'r cynllun yn rhoi mwy o bwyslais ar ffermio gwyrdd, ac yn disodli’r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymreig.
Bwriad y cynllun yw cynnal a gwella'r amgylchedd naturiol, lleihau allyriadau carbon a gwella safon bywyd yr anifeiliaid ar ffermydd.
Ond mae rhai agweddau o’r cynllun yn ddadleuol, yn enwedig yr angen i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu â choed.
Cynhaliwyd dadansoddiad o effeithiau economaidd posibl y cynllun, fydd yn dod i rym yn 2025, gan ADAS, Pareto Consulting SRUC a Choleg Prifysgol Dulyn.
Roedd yn dweud y gallai weld miloedd o swyddi yn cael eu colli yn ogystal â cholli dros 120,000 o dda byw, yn ôl asesiad effaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywydd NFU Cymru, Aled Jones ymysg y rheini sydd wedi rhannu pryderon am effeithiau'r cynllun ar ffermio yng Nghymru.
Dywedodd bod y data sydd wedi ei gasglu'n mynd i synnu nifer mewn cymunedau gwledig.
"Mae’n destun pryder mawr darllen bod asesiad effaith Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos canlyniadau mor niweidiol i’r diwydiant," meddai.