Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Llwy bren arall i Gymru wrth golli yn yr Eidal

Yr Eidal v Cymru

Mae Cymru wedi llwyddo hawlio'r llwy bren ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y menywod am yr eildro yn olynol wrth golli o 44-12 yn erbyn yr Eidal yn Parma ddydd Sul.

Roedd y prif hyfforddwr Sean Lynn wedi gwneud tri newid i'r tîm gollodd yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Iwerddon wrth iddyn nhw geisio osgoi'r llwy bren.

Roedd y prop Donna Rose yn cychwyn am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth.

Daeth Gwen Crabb i mewn yn yr ail reng gyda Georgia Evans yn symund nôl i safle'r wythwr.

Cafodd y gêm ei symud i ddydd Sul er mwyn parchu angladd y Pab ddydd Sadwrn.

Roedd munudau agoriadol y gêm yn addawol iawn wrth i Gymru reoli'r meddiant a'r tiriogaeth.

Gwelwyd rhediad grymus gan Carys Cox ar hyd yr ystlys chwith i mewn i 22 yr Eidal.

Daeth haeddiant i Gymru pan groesodd y blaenasgellwr Kate Williams yn dilyn lein o gic gosb yn erbyn yr Eidal ar ôl naw munud. Yr Eidal 0-5 Cymru.

Cafwyd rhybudd i Gymru wrth i nifer o giciau cosb yn eu herbyn roi cyfleoedd i'r Eidal ymosod ac fe achubwyd y sefyllfa wrth i'r tîm cartref ollwng y bêl wrth ddynesu at y llinell gais.

Os oedd Cymru wedi rheoli'r deng munud cyntaf yna yr Eidal oedd yn meistroli wedi hynny. 

Methodd Cymru â chlirio'n ddoeth o'u dwy ar hugain gan roi'r cyfle i'r Eidal wrthymosod.

Daeth cais cyntaf i'r Eidal gyda thaclo gwan gan Cymru gyda'r mewnwr Sofia Stefan yn croesi a'r canolwr Michela Sillari yn trosi i'w rhoi nhw ar y blaen. Yr Eidal 7-5 Cymru.

Fe ildiodd Cymru gic gosb arall o fewn eu 22 ac fe ychwanegodd Sillari'r tri phwynt. Yr Eidal 10-5 Cymru.

Roedd Cymru'n ei chael hi'n anodd dygymod â chyflymder chwarae'r Eidal ac yn cael eu cosbi droeon yn ardal y dacl.

Fodd bynnag fe wnaeth Cymru ddyfalbarhau gyda'r blaenwyr ar flaen y gâd eto. Daeth llwyddiant yn eiliadau olaf yr hanner gyda Gwenllian Pyrs yn croesi am gais oedd yn debyg iawn i'r un cyntaf. Fe drosodd y mewnwr Keira Bevan y tro hwn i roi Cymru ar y blaen ar yr hanner. Yr Eidal 10-12 Cymru.

Blerwch 

Bu'n rhaid i Gymru wrthsefyll ymosodiadau gan yr Eidal ym munudau agoriadol yr ail hanner gyda cham-drafod gan y tîm cartref yn achub Cymru.

Aeth yr Eidal ar y blaen diolch i gic gosb gan Sillari ar ôl i Gymru gamsefyll yng nghanol y cae. Yr Eidal 13-12 Cymru.

Fe wnaeth amddiffyn blêr gan Gymru o gic rydd ildio cic gosb arall a chyfle i'r Eidal ddynesu at y llinell gais. Ond fe wnaeth Abbie Fleming gipio'r bêl o grafangau blaenwyr yr Eidal i godi'r pwysau.

Ond methodd Cymru â chlirio'n effeithiol gan roi'r cyfle i'r gwrthwynebwyr ymosod gydag ail gais yn y gornel dde i'r eilydd Francesca Granzotto gyda Sillari'n trosi o'r ystlys. Yr Eidal 20-12 Cymru.

Gyda diffyg disgyblaeth Cymru'n cael ei gosbi eto fe aeth yr Eidal ymhellach ar y blaen ar ôl 57 munud gyda chais i'r prop Silvia Turani a Sillari'n trosi am y trydydd tro. Yr Eidal 27-12 Cymru.

Roedd gan Gymru mynydd i'w ddringo os am ddod nôl yn y gêm ond aeth hynny'n llawer fwy anodd pan groesodd cefnwr yr Eidal Vittoria Ostuni Minuzzi am bedwerydd cais i'w thîm ar ôl 63 munud. Yr Eidal 32-12 Cymru.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wrth i'r eilydd Natalia John dderbyn cerdyn melyn am dacl beryglus ar ôl 76 munud.

Fe rwbiodd yr Eidal halen ym mriwiau Cymru wrth i Granzotto groesi am ei hail gais a'r asgellwr Aura Muzzo.

Y sgôr terfynol: Yr Eidal 44-12 Cymru.

Mae'r golled yn golygu fod Cymru'n gorffen ar waelod y tabl gyda un pwynt yn unig o bum gêm yn y bencampwriaeth.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.