Marwolaeth dyn yng Nghaernarfon 'ddim yn amheus'
Nid yw marwolaeth dyn yng Nghaernarfon yn cael ei thrin fel un amheus yn ôl Heddlu'r Gogledd.
Cyhoeddodd yr heddlu fore Sul fod tri o bobl wedi eu harestio yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghaernarfon.
Mewn diweddariad brynhawn Sul, dywedodd yr heddlu nad yw'r farwolaeth bellach yn cael ei thrin fel un amheus.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw am 12:11 ddydd Sadwrn i ymateb i farwolaeth dyn mewn cyfeiriad ar Ffordd Maes Barcer yn y dref.
Ychwanegodd y llu fod y mater wedi cael ei gyfeirio at Grwner Gogledd Cymru.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r dyn fu farw wedi ei enwi yn lleol fel Dylan Evans.