Teyrngedau i ddyn 'direidus a hwyliog' o Ben Llŷn
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur yng Ngwynedd wythnos diwethaf.
Bu farw Nic Reed mewn gwrthdrawiad rhwng Rhyd-ddu a Beddgelert ddydd Sadwrn.
Mae Mr Reed wedi ei ddisgrifio fel "cymeriad direidus a hwyliog", oedd yn gwneud gwaith gwirfoddol yn ei gymuned a thros Gymru.
Un a oedd yn ei adnabod yn dda oedd Archdderwydd Cymru, ac fe soniodd Myrddin Ap Dafydd wrth Newyddion S4C am y golled i’r ardal yn dilyn marwolaeth Mr Reed.
“Saer ac aelod o un o hen deuluoedd Rhydyclafdy, Llŷn oedd Nic, ac mae ôl ei law grefftus yn amlwg yn yr ardal.”meddai.
“Mi fu’i gwmni triw a chadarnhaol yn ysbrydoliaeth i ni i gyd a bydd bwlch enfawr ar ei ôl. Mae’n cydymdeimlad dwfn gyda’i deulu.” Ychwanegodd Mr Ap Dafydd.
Roedd Mr Reed hefyd yn un o gyfarwyddwyr cwmni Cwrw Llŷn.
Mae'r cwmni wedi cyhoeddi teyrnged iddo ar eu cyfrifon cymdeithasol, gan ddweud fod "colli Nic Reed wedi ysgwyd yr holl ardal."
"Roedd yn gymeriad direidus a hwyliog, ond o ddifri gyda’i grefft neu pan fyddai’n gwneud gwaith gwirfoddol yn ei gymuned a thros Gymru a’r Gymraeg.
"Mi fu’i ddawn saer yn hollbwysig wrth greu lle hwylus i gynhyrchu a rhoi profiad braf i ymwelwyr ym mragdy Cwrw Llŷn, lle’r oedd yn un o’r deuddeg cyfarwyddwr.
"Mae’n cydymdeimlad dwfn gyda’i deulu." meddai'r datganiad gan y cwmni.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd dros y we, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod Q019839.