Newyddion S4C

Colegau am 'gadw athletwyr yng Nghymru' gyda thechnoleg golff arloesol

18/02/2024

Colegau am 'gadw athletwyr yng Nghymru' gyda thechnoleg golff arloesol

Mae un o reolwyr chwaraeon yn un o golegau’r de wedi dweud ei fod yn benderfynol o gadw athletwyr Cymreig yng Nghymru.

Yn wahanol i golegau cyfagos, sy’n hyrwyddo chwaraeon fel rygbi neu bêl-droed, mae Coleg Merthyr wedi dod yn adnabyddus am eu hadnoddau a chyrsiau golffio, meddai Delme Jenkins.  

A phan ddaeth y gŵr yn rheolwr Academi Golff Coleg Merthyr yn 2021, roedd yn benderfynol o ddenu mwy o fyfyriwr i’r coleg – a golff oedd y ffordd ymlaen. 

Gydag adran golff “cyntaf o’i math” yng Nghymru, mae’r coleg yn cynnig hyfforddiant golffio i bob un o’u myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau yn y gamp, gan gynnwys ar lefel proffesiynol.  

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Delme Jenkins: “Ers i mi gael fy mhenodi fel rheolwr yr academi, mae ‘na wedi bod lot o gystadleuaeth rhwng colegau eraill.

“Mae nifer ohonynt wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran partneriaethau mewn chwaraeon eraill fel pêl-droed a rygbi felly o’n ni’n ceisio ‘neud rhywbeth bach yn wahanol,” meddai. 

Partneriaeth

Fe gafodd yr adran golffio ei lansio yng Ngholeg Merthyr yn 2022, a hynny dan arweiniad Neil Mathews, sef rheolwr golff Cymru ar gyfer y dynion a’r bechgyn. 

Gan ddefnyddio simiwleiddwyr (‘simulators’) ‘Wellput’ a ‘Trackman’, fe allai myfyrwyr ymarfer eu golffio tra’n esgus eu bod ar y cwrs golff – heb iddyn nhw orfod gadael eu hystafell dosbarth.

“Yn draddodiadol, mae dysgwyr ac athletwyr golff yng Nghymru wedi tueddi o adael gan fynd i Hartbury yn Lloegr i barhau gyda’u hyfforddiant.

“Felly ‘dyn ni wedi creu partneriaeth strategol gyda Glamorgan Golf lle’r ydym yn hyrwyddo eu cynnyrch a gwasanaethau nhw, ac maen nhw’n darparu hyfforddiant i’m myfyrwyr.

“’Dyn ni eisiau cadw golffwyr Cymreig yng Nghymru,” meddai.

'Cyfleoedd'

Ond er bod Delme Jenkins yn awyddus i athletwyr yr ardal aros yn lleol, mae rheolwyr yr academi hefyd yn falch o’r ffordd mae’r cwrs wedi helpu myfyrwyr i wireddu breuddwydion tramor. 

Yn fyfyrwraig Troseddeg a Hanes yng Ngholeg Merthyr, bydd Elin, a fu’n hyfforddi gyda’r Academi Golff bellach yn symud i’r Unol Daleithiau er mwyn parhau gyda’i hyfforddiant a’i hastudiaethau. 

Wedi iddi ennill ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Talaith Murray yn Kentucky ym mis Awst, mi fydd Elin yn cymryd rhan mewn cwrs golffio uchelgeisiol gyda’r gobaith o ddod yn golffiwr proffesiynol yn y dyfodol agos. 

“Dwi fethu aros i gyrraedd Prifysgol Talaith Murray,” meddai. 

“Mae’r mae’r cyfleusterau yno gyda’r gorau yn y byd, a dwi’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Phil Nelly sy’n bennaeth ar y rhaglen golff i fenywod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.