Newyddion S4C

'Y bobl 'da ni am gofio': Teulu yn rhoi'r gorau i siop yng Nghaernarfon ar ôl canrif

17/02/2024

'Y bobl 'da ni am gofio': Teulu yn rhoi'r gorau i siop yng Nghaernarfon ar ôl canrif

“Mae’r siop bob tro ‘di bod yma i ni, ac yn fan ‘ma gafo ni ein magu – tu ôl i’r cownter, ar ben stôl.”

Yn 100 oed, mae siop Gray Thomas yng Nghaernarfon, Gwynedd, wedi bod yn ganolbwynt i fywydau Carys Fox ac Eleri Gray-Thomas ers dyddiau cynnar eu plentyndod. 

Ar ôl cymryd yr awenau gan eu rhieni yn yr wythdegau, mae’r ddwy chwaer bellach wedi bod yn rhedeg y busnes am dros 40 mlynedd, ond nawr yn bwriadu ymddeol.

“Mae wedi bod yn fraint cael rhedeg y siop,” meddai Ms Fox wrth Newyddion S4C. 

“Pan ‘da ni ddim yn mynd i fod yma, y bobl ‘da ni am gofio. ‘Da ni ‘di ‘neud ffrindiau allan o gwsmeriaid ac mae hynny’n beth neis i ni.”

‘Croesawu wynebau enwog’

Os ewch draw i Gray Thomas heddiw, byddwch yn darganfod caffi bach a siop anrhegion, ond roedd unwaith yn siop gerddoriaeth ac arddangosfa luniau.

Y diweddar Hugh ac Annie Gray-Thomas fu’n gyfrifol am blannu’r hedyn cychwynnol hwnnw, gyda drysau’r siop yn agor am y tro cyntaf ym 1924.

Ers hynny, mae dwy genhedlaeth arall wedi datblygu’r busnes gan groesawu sawl wyneb enwog dros y blynyddoedd.

Image
Siop Gray Thomas
Siop Gray Thomas yn y dyddiau cynnar

“Mae pobl yn dweud, ‘O, nes i brynu fy gitâr cyntaf yn Gray Thomas,’” meddai Ms Fox.

“A John ac Alun yn dweud eu bod nhw ‘di cael eu gitârs o fan hyn,” meddai Ms Gray-Thomas.

“A’r pianydd Russ Conway. Roedd o yma ac roedd yn rhaid cael yr heddlu yma - yn ôl be ‘da ni’n ddeall - i fynd a fo allan trwy’r cefn. Roedd o’n cael ei mobio fel rhyw pop star.”

Yn y saithdegau a’r wythdegau roedd y siop gerddoriaeth ar ei hanterth.

“Amser Hogia’r Wyddfa, Tony ac Aloma. Roedd pawb yn prynu recordiau,” meddai Ms Gray-Thomas.

Ac yn ôl y sôn, mae un o’r recordiau a brynwyd yno ar y pryd ar ddangos yn amgueddfa The Beatles yn Lerpwl.

Ond nid cerddorion yn unig oedd yn ymweld â’r siop yng Nghaernarfon.

“Roedd Kyffin Williams yn dod i mewn yn aml. Roedd Dad yn fframio iddo fo. A Keith Andrew, William Selwyn. Artistiaid o safon uchel ofnadwy,” meddai Ms Fox.

“A phobl fel Bryn Terfel. Dwi’m yn gwybod os ‘da ni fod i ddweud enwau pobl, ond roedd o’n ymwelydd yma’n gyson,” meddai Ms Gray-Thomas.

Yn y degawdau mwy diweddar, yr actores Gloria Stuart o’r ffilm Titanic oedd yn ymweld gyda’i merch.

“Roedd hi’n ddynes anhygoel. Roedd hi’n ei nawdegau’n braf yn dod yma, ac mi roedd hi’n cymryd gymaint o ddiddordeb yn hanes Cymru,” meddai Ms Gray-Thomas.

“Dwi’n cofio hi’n prynu’r llyfr Matter of Wales gan Jan Morris. 

“Roedd hi’n fywiog iawn.”

‘Cofio arwisgiad Tywysog Cymru’

Wedi ei lleoli dros ffordd i Gastell Caernarfon, mae’r siop hefyd wedi bod yn dyst i sawl digwyddiad hanesyddol.

Yn ôl Ms Gray-Thomas, un o’r digwyddiadau mwyaf cofiadwy oedd arwisgiad y Tywysog Siarl ym 1969. 

“Roedd o’n achlysur hanesyddol a dwi’m yn meddwl 'neith Caernarfon weld y fath beth eto,” meddai.

“Roedden ni yn y lleoliad perffaith ar ei gyfer o. Camerâu a ballu fyny yn y ffenestri a gweld bob dim oedd yn mynd ymlaen ar y pryd. Yn hanesyddol, mae hynny’n rhan o hanes y dref ac i ni fel teulu.”

 

Image
Ei mawrhydi y frenhines Elizabeth II
Y Frenhines Elizabeth II a'r Tywysog Philip, Dug Caeredin, i'w gweld o siop Gray Thomas yng Nghaernarfon

 

Mae Olive Blackwell o Gaernarfon yn cofio’r digwyddiad yn iawn.

“Fues i’n gweithio yn y siop records, blwyddyn yr arwisgo oedd hi, fy mlwyddyn ddiwethaf yn y coleg. 

“Dwi’n cofio mi 'oedd Tony ac Aloma efo Tri Mochyn Bach, ac mi 'oedd Hogia’r Wyddfa efo Safwn yn y Bwlch yma ar y pryd, i bobl wrando arnyn nhw. 

“A ‘naethon nhw ‘neud LP o’r arwisgo, ond fe ‘naeth bob un ohonyn nhw gael eu gyrru nôl achos mi 'oedd na ryw hic ar bob un o’r recordiau.

'Mi fydd 'na golled'

Er bod hanner canrif wedi mynd heibio ers hynny, mae Ms Blackwell yn dal i ddod i’r siop – y tro yma fel cwsmer gyda’i ffrindiau Megan Owen a Glenys Gruffydd, hefyd o Gaernarfon.

“’Sa ni’n colli’r siop yn ofnadwy os ‘sa hi’n mynd o ‘ma,” meddai Ms Owen. 

“'Da ni’n cyfarfod fel hyn ac yn cymdeithasu, ac mae hi’n braf yma. 'Da ni wedi ‘neud ffrindiau neis yma.”

“Mae’n le braf, ‘da ni’n wastad yn cael croeso mawr. Mae Eleri a Carys yma ac maen nhw’n nabod ni ac yn barod i ddweud helo a chroeso. 'Da ni just yn cyfarfod ffrindiau yma,” meddai Ms Gruffydd.

“Mae cymaint yn dod i mewn ‘wan yn dweud, ‘O, dachi’n mynd? ‘Da ni’n deall bo’ chi ‘sio ymddeol, ond mi fydd ‘na golled.’ Mae’n neis cal ymateb fel ‘na,” meddai Ms Fox.

Mae’r teulu nawr yn edrych am denant newydd ar gyfer pennod nesaf y siop.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.