Newyddion S4C

Y pleidleisio'n dechrau i ddewis prif weinidog nesaf Cymru

Vaughan Gething Jeremy Miles

Mae'r pleidleisio yn dechrau ddydd Gwener ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n cystadlu i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.

Mae Jeremy Miles, y gweinidog presennol dros addysg a’r Gymraeg, a Vaughan Gething, y gweinidog dros yr economi, yn cystadlu i weld pwy fydd yn arwain Llafur Cymru, a’r wlad, erbyn canol mis Mawrth.

Maen nhw am gymryd lle Mark Drakeford, sydd wedi bod yn brif weinidog ers 2018, ar ôl cyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo yn hwyr y llynedd.

Bydd pwy bynnag fydd yn llwyddiannus yn dod yn bumed arweinydd y wlad ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru (sef y Senedd bellach) yn 1999.

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael dweud eu dweud am ba un o'r ddau wleidydd fydd arweinydd newydd y wlad.

Dim ond aelodau Llafur neu ran o sefydliadau cysylltiedig, fel undeb llafur, all gymryd rhan, sy'n golygu y gall tua 100,000 o bobl bleidleisio.

Mae gan Mr Gething gefnogaeth y rhan fwyaf o’r undebau mawr a’r Arglwydd Kinnock, fu’n arwain y blaid yn y DU o 1983 i 1992.

Mae peth dadlau wedi bod ynghylch Mr Gething yn derbyn cefnogaeth undeb Unite, ar ôl i’w wrthwynebydd gael ei ddiarddel am nad yw erioed wedi dal “swydd lleyg etholedig fel cynrychiolwyr gweithwyr”.

Dywedodd Mr Miles ei fod yn “reol newydd nad oedd neb yn ymwybodol ohoni” a bod yr aelodau’n anhapus.

Ond dywedodd Unite eu bod wedi cynnal y broses enwebu yn gywir a dywedodd Mr Gething mai mater i'r undeb oedd penderfynu ar ei brosesau democrataidd ei hun.

Yn wahanol i etholiadau arweinyddiaeth Llafur blaenorol, mae'r holl bleidleisiau yn gyfartal.

Mae dewis arweinydd yn y gorffennol wedi defnyddio system “coleg etholiadol”, gan roi mwy o bwysau i ASau ac Aelodau’r Senedd.

Agorodd y pleidleisio ddydd Gwener a bydd y canlyniad yn cael ei ddatgan ar 16 Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.