Newyddion S4C

Dartiau: Gobeithion Cymru o ennill Cwpan y Byd 'wedi lleihau' wrth golli Gerwyn Price

Dartiau: Gobeithion Cymru o ennill Cwpan y Byd 'wedi lleihau' wrth golli Gerwyn Price

Bydd Cymru yn dechrau ar eu hymgyrch yng Nghwpan Dartiau’r Byd yn Yr Almaen ddydd Sadwrn ond ni fydd Gerwyn Price yn chwarae.

Ychydig ddyddiau cyn i'r gystadleuaeth gychwyn roedd y Professional Darts Corporation (PDC) wedi dweud bod Price wedi tynnu allan oherwydd "problemau iechyd."

Jim Williams fydd yn cymryd ei le ac ef fydd yn bartner i Jonny Clayton yn y gystadleuaeth.

Mae eu gêm gyntaf yn erbyn Croatia nos Wener.

Dywedodd Price, sydd yn safle rhif pedwar ar restr detholion y byd ei fod yn "siomedig i fethu'r gystadleuaeth" a'i fod "bob tro yn caru cynrychioli Cymru."

Yn ôl Dylan Williams, sefydlydd y wefan Darts Cymru, fydd ei golled yn ergyd mawr i obeithion y wlad o gipio’r tlws.

"I golli Gerwyn, ma' gobeithion Cymru nawr wedi lleihau tipyn bach bydden i'n gweud," meddai wrth Newyddion S4C.

"I golli unrhyw chwaraewr o fewn diwrnodau cyn cychwyn yr ymgyrch bydde'n glatshen i unrhyw un. Ond i ni o ran y Cymry, 'drycha di ar ei brofiad e, y llwyddiant yn y gystadleuaeth yma a'r meddylfryd 'ma o'r enillydd.

"Mae'n ergyd masif rili."

Hanes Cymru yng Nghwpan y Byd

Mae Cymru wedi ennill y gystadleuaeth ar ddau achlysur, yn 2020 ac yn 2023.

Maen nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol ar dri achlysur hefyd, yn 2010, 2017 a 2022.

Un gêm yn unig mae Cymru wedi colli yn y gystadleuaeth pan mae Jonny Clayton a Gerwyn Price yn chwarae gyda'i gilydd, gan ennill 13.

Image
Gerwyn Price a Jonny Clayton
Gerwyn Price a Jonny Clayton yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn 2022. (Llun: Wochit / Alle Rechte vorbehalten)

Mae Dylan Williams yn cymharu colled Gerwyn Price fel tîm pêl-droed Cymru yn colli Gareth Bale.

"Mae e'r un peth a 'se Gareth Bale yn tynnu mas o 'whare i Gymru noson cyn gêm yng Nghwpan y Byd.

"Mae'r ergyd yr un faint mor fawr â hynny, ti'n colli rhywun sydd medru ennill gêm ar ben ei hunain."

Pwy yw Jim Williams?

Mae Jim Williams yn safle rhif 44 yn rhestr detholion y byd ac yn chwaraewr profiadol.

Dechreuodd y gŵr 39 oed ei yrfa yn y byd dartiau yn 2004 ac wedi ennill nifer o gystadlaethau ar hyd y blynyddoedd.

Nid yw'n estron i wisgo crys Cymru chwaith, gan gynrychioli ei wlad mewn nifer o gystadlaethau gwahanol.

Image
Jim Williams
Derbyniodd Jim Williams galwad i chwarae yng Nghwpan y Byd pedwar diwrnod cyn gêm gyntaf Cymru. (Llun: Wochit)

"Ma' tipyn o hanes a ma' tipyn o brofiad gyda Jim," meddai Dylan Williams.

"Mae 'di ennill un gystadleuaeth yn y PDC, sydd yn tipyn o beth dyddiau yma achos ma'r safon ar draws y gylchdaith yn anhygoel.

"O ran ei brofiad e yn y British Darts Organisation (BDO), mae wedi cyrraedd ffeinal Pencampwriaeth y Byd fan 'ny, felly mae'n tipyn o foi i allu gwneud 'ny.

"Mae hefyd wedi cynrychioli Cymru dwsinau o weithiau yn gwahanol cystadlaethau yn y BDO, felly mae'r pwysau 'na o wisgo'r crys coch yn beth fydd e'n gyfarwydd gyda, er penwythnos 'ma yn amlwg fydd lot fwy o lygaid arno fe."

Cymru i gipio'r tlws am y trydydd tro?

Yn wahanol i gystadlaethau arferol, mae gwledydd yn chwarae pob gêm mewn parau yng Nghwpan y Byd.

Eleni bydd y tro cyntaf i Jonny Clayton a Jim Williams chwarae gyda’i gilydd, felly beth yw eu gobeithion o ennill y gystadleuaeth?

"Pan ma rhywun yn gwybod bod nhw'n 'whare Gymru ma' nhw'n gwbod bod nhw mewn am dipyn o gêm," meddai Dylan.

"Mae'n gêm gwbl wahanol achos fel arfer o 'whare fel unigolyn bydde ti'n twlu lot mwy aml. Fan hyn nawr ma' rhaid ti aros pob tair throw er mwyn twlu dy ddartiau.

"Ond i fi'n gweld e mwy 'na'r gallu twlu 'ma yw'r perthynas a'r gemeg rhwng y chwaraewyr.

"Yn amlwg, dyw Jim ddim yn mynd i gallu llenwi sgidiau Gerwyn achos ma'r perthynas 'na rhwng fe a Jonny ma' nhw fel brodyr, ma' nhw 'di creu bond cryf iawn dros y blynyddau.

"Os galle Jim a Jonny creu'r berthynas 'ma, bod Jonny nawr yn cymryd y rôl fel y  capten, yn 'whare’n dda o dan bwysau, gobeithio bydd hynny'n galluogi Jim i jyst i 'whare gêm ei hunain a bod ni'n gweld nhw'n cryfhau fel bod nhw'n mynd trwy'r rowndiau."

Prif lun: Wochit
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.