Apêl heddlu wrth i deulu roi teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth wrth i deulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg roi teyrnged iddo.
Bu farw Jason Parker, 42, o Ben-y-Bont ar Ogwr ar ôl gwrthdrawiad am 19.25 ddydd Mawrth ar y B4265 yn Llanilltud Fawr.
Dywedodd ei deulu: “Mae Ceri ac Evan Parker yn drist iawn o orfod cyhoeddi marwolaeth eu hannwyl ŵr a thad, Jason Parker, 42 oed, a fu mewn damwain angheuol ar nos Fawrth 25 Mehefin 2024 yn ardal Llanilltud Fawr.
“Mae Ceri ac Evan yn ymwybodol o’r poen meddwl i’w ffrindiau annwyl a’i gyd-reidwyr a oedd gyda Jason ar adeg y digwyddiad trasig hwn.
“Roedd Jason yn ŵr cariadus ac yn dad hyfryd i Evan, Amy, Casey ac Ellie ac yn daid cariadus i Ruben.
“Hoffai Ceri roi diolch i holl ffrindiau Evan a’u rhieni o Ysgol Gyfun Brynteg a Chlwb Rygbi Chwaraeon Pen-y-bont ar Ogwr sydd wedi eu cefnogi ar y cyd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Hoffai Ceri hefyd ddiolch i holl aelodau’r Gwasanaethau Brys a aeth i’r digwyddiad ar y noson, yn ogystal â Swyddogion Cyswllt Teuluol Heddlu De Cymru a’r cyhoedd yn gyffredinol am eu holl gefnogaeth a’u negeseuon caredig.”
Apelio
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n parhau i apelio am wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd.
Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud ag un beic modur Aprilia gwyrdd a du a oedd yn teithio i gyfeiriad Sain Tathan.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a allai fod ag unrhyw ffilm teledu cylch cyfyng o’r digwyddiad neu’r modd yr oedd y beic modur yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 2400210628,” medden nhw.