'Mor falch rhoi Cymru ar y map': Pump becws o Gymru ymysg y gorau yn y byd
Mae pump becws o Gymru wedi cael eu henwi ymysg y rhai gorau yn y byd.
Mae La Liste wedi cyhoeddi enillwyr Gwobrau Toes 2024, gyda bron i 200 yn y DU yn cael eu henwi ymysg y gorau yn y byd.
Yn eu plith, mae pump o Gymru, sef Becws yr Angel yn Y Fenni, Becws Brød yng Nghaerdydd, Becws Ground yng Nghaerdydd, Crwst yn Aberteifi, a Phopty'r Dref yn Nolgellau.
Osian Jones ydy perchennog becws Crwst yn Aberteifi yng Ngheredigion, ac mae'n teimlo yn hynod falch fod ei gwmni wedi cael ei enwi ar y rhestr fawreddog.
"Ni mor falch bo’ ni’n rhoi Cymru fach ar y map, ac ardal Aberteifi.
"Fi ‘di byw yma ers o’n i’n fach a ma’r wlad mor fach i gymharu â gwledydd eraill yn y byd ag i wbod bod pump wahanol bakery ar y list, mae’n anhygoel i Gymru," meddai wrth Newyddion S4C.
"I fod yn deg, ni fan hyn bob dydd, saith dydd yr wythnos yn neud bara, doughnuts a popeth.
"Ni’n neud popeth o scratch a ma’ fe’n waith caled a ma’r bois i gyd yn gweithio’n galed, ni’n gweithio’n galed a ma’n amazing jyst cael accolade fel ‘na i roi’r cherry on top fel ma’ nhw’n gweud so ni’n chuffed iawn."
Ers i'r busnes gael ei sefydlu yn ôl yn 2018, mae wedi mynd o nerth i nerth.
"Dechreuon ni Crwst nol yn tŷ hen mam-gu a tad-cu fi nol yn 2016 so fi a Catrin, fy ngwraig, yn rhedeg y becws o gytre a wedyn mynd lawr i stondin yn Aberteifi dwywaith yr wythnos, hefyd deliverio i wahanol siope yn yr ardal so o’dd y production yn eitha bach," meddai Osian.
"Camu ymlaen cwpl o flynydde, agoron ni siop yn y dref, sef nawr Crwst ar y gornel yn Aberteifi ag ers hynny, ni ‘di adeiladu bakery weddol o seis sydd biti dwy funud o Crwst a hefyd fan ‘na, ni yn neud jarie a granola a pethe fel ‘na hefyd. Ma dros 70 o staff ‘da ni nawr."