Newyddion S4C

Yr heddlu ‘ddim yn chwilio am neb arall’ ar ôl marwolaeth myfyrwraig o Ben-y-bont ar Ogwr

Lauren Evans

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall ar ôl dod o hyd i gorff myfyrwraig nyrsio o Ben-y-bont ar Ogwr a pharafeddyg mewn tŷ yn Swydd Stafford.

Cafodd cyrff Lauren Evans, 22 oed o Ben-y-bont ar Ogwr a Daniel Duffield, 24, o Cannock eu darganfod mewn cyfeiriad yn Alpine Drive yn Hednesford ddydd Mawrth.

Cafodd archwiliadau post-mortem eu cwblhau ddydd Gwener ac ni chafodd achos y farwolaeth ei gyhoeddi gan yr heddlu, gan ddweud y byddai yn fater i gwest yn y dyfodol.

Fe ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu nad oedden nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r marwolaethau, a bod ffeil yn cael ei pharatoi ar gyfer y crwner.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Nicki Addison o’r adran ymchwiliadau mawr: “Mae’r digwyddiad hwn wedi chwalu teuluoedd ac anwyliaid y rhai fu’n gysylltiedig â’r digwyddiad.

“Hoffen ni ailadrodd bod y teuluoedd wedi gofyn bod eu preifatrwydd yn cael ei barchu yn ystod y cyfnod trasig hwn. 

“Parchwch hynny os gwelwch yn dda. Hoffen ni hefyd eich atgoffa nad yw dyfalu’n ddefnyddiol a’i fod yn niweidiol i’r teuluoedd – ac fe allai rwystro ein hymchwiliad.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi gwybodaeth i ni.”

'Angerddol'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe bod Lauren Evans yn fyfyrwraig oedd yn ei blwyddyn olaf yn astudio gradd nyrsio.

Mewn datganiad, dywedodd y llefarydd: “Rydym wedi ein synnu a’n tristau’n fawr o glywed am farwolaeth Lauren Evans oedd yn fyfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe.

“Roedd Lauren yn angerddol dros nyrsio a dangosodd  ymroddiad aruthrol yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Abertawe.

“Bydd colled fawr ar ei hôl gan ei chyd-fyfyrwyr a staff.

“Mae ein meddyliau gyda theulu Lauren ar hyn o bryd, ac rydym yn ymestyn ein cydymdeimlad dwysaf wedi eu colled drasig.”

Roedd Daniel Duffield wedi ymddangos ar gyfres ddogfen Channel 4 999: On The Frontline, oedd yn dilyn criwiau ambiwlans wrth iddynt fynychu galwadau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.

Dywedodd cydweithwyr ei fod yn un oedd “bob amser yn awyddus i helpu” ac yn “aelod adnabyddus o staff”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.