Rhys Meirion yn dweud ei fod yn glir o ganser ar ôl triniaeth
Mae'r canwr opera a'r cyflwynydd poblogaidd Rhys Meirion wedi rhannu neges ar gyfryngau cymdeithasol i ddweud ei fod bellach yn glir o ganser ar ôl derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar i dynnu tiwmor o'i goluddyn.
Yn llais cyfarwydd ar lwyfannau, y radio ac ar y teledu, dywedodd y canwr 59 oed o Bwllglas ger Rhuthun fod y ddau fis diwethaf wedi bod yn rhai "anodd iawn" iddo a'i deulu.
"Ar 29 Mawrth ges i ddiagnosis o ganser y coluddyn a tair wythnos anodd iawn wedyn. O ni ddim yn gwybod pa fath o ganser, na lle oedd o. Ond ar ol sgan a MRI a CT Scan o’dd o’n edrych yn debyg ei fod o yn y coluddyn a dim yn unlle arall."
Dywedodd nad oedd y meddygon yn gallu bod yn sicr o hynny cyn iddo gael llawdriniaeth am wyth awr yn Ysbyty Gwynedd.
Ychnwanegodd ei fod wedi cael canlyniadau "ac mae popeth wedi dod yn ôl yn sero."
"Felly does na ddim cancr yn unrhyw fan yn fy nghorff i a dwi ddim angen triniaeth pellach o gwbl", ychwanegodd.
"Diolch yn fawr am eich negeseuon, mae di helpu gymaint a gennai gymaint o waith diolch i’r llawfeddyg a holl staff Ysbyty Gwynedd a Ysbyty Maelor hefyd, maen nhw ‘di bod yn wych."
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen i weld pawb yn fuan mewn gigs a chyngherddau ar draws y wlad.