Ymosodiad Y Rhyl: Dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty
Mae dyn yn parhau mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty yn Stoke wedi ymosodiad yn Y Rhyl yn gynnar fore dydd Sadwrn meddai Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi dioddef ymosodiad ychydig cyn 03:10 y tu allan i far y Tiki Room ar Stryd Sussex yn y dref.
Dioddefodd anafiadau difrifol yn y digwyddiad, ac mae dyn lleol oedd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anafu bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am unrhyw dystion sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Rebecca Hughes: “Rwy’n hynod ddiolchgar i’r rhai sydd wedi cysylltu â ni mewn cysylltiad â’r digwyddiad hyd yn hyn.
“Rwy’n dal yn awyddus i glywed gan unrhyw un arall sydd ag unrhyw wybodaeth bellach, neu unrhyw un a welodd yr ymosodiad.
“Hoffwn hefyd sicrhau’r cyhoedd unwaith eto ei bod yn ymddangos bod hwn yn ddigwyddiad ynysig heb unrhyw fygythiad ehangach i’r cyhoedd a gallaf gadarnhau nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’n hymchwiliad.”
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 neu ddefnyddio eu gwefan a dyfynnu'r cyfeirnod 25000446263.