Newyddion S4C

Ymchwilio i 'graffiti' ar dros 60 o gerrig beddi ar dir eglwys hanesyddol

Eglwys sant brynach

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi adroddiadau o "graffiti" ar dros 60 o gerrig beddi ar dir eglwys hanesyddol yng ngogledd Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw’n ymchwilio i’r drosedd treftadaeth bosib yn Eglwys Sant Brynach, Nanhyfer.

Cafodd y marciau ei roi ar y cerrig beddi rhwng 17.00 ddydd Sul 23 Mehefin a 12.30 y dydd Mawrth canlynol, meddai'r heddlu.

Dylai unrhyw un sydd a gwybodaeth gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu cyfeirnod 24000562812.

“Trosedd treftadaeth yw unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy’n niweidio asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau,” meddai’r heddlu.

“Mae rhai o’r asedau hyn wedi’u diogelu gan droseddau penodol ond mae troseddau treftadaeth yn aml ar ffurf troseddau ‘cyffredinol’ fel lladrad, difrod troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd yr un mor niweidiol i asedau hanesyddol ac yn amharu ar ddealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd ohonynt.”

Mae’r fynwent yn cynnwys Croes Sant Brynach neu Groes Nanhyfer sy’n dyddio o’r 10fed neu'r 11eg ganrif.

Yn ôl chwedlau lleol mae gôg cyntaf y flwyddyn yng Ngorllewin Cymru yn sefyll ar ben y groes ac yn canu ar ddydd gwledd Sant Brynach ar y 7 Ebrill.

Cafodd yr eglwys ei hadfer yn 1864.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.