Newyddion S4C

Gwasanaeth bad achub Pwllheli i ail-ddechrau

13/02/2024
Pwllheli

Mae'r RNLI wedi cadarnhau fod y bad achub ym Mhwllheli yng Ngwynedd yn ail-ddechrau ar ôl cyfnod heb y gwasanaeth.

Ymddiswyddodd nifer o swyddogion allweddol yr orsaf fis diwethaf oherwydd gwrthdaro mewnol rhwng aelodau o'r criw.

Ond mae 19 o'r gwirfoddolwyr bellach wedi dychwelyd i'r gwasanaeth.

Mewn datganiad, dywedodd Ryan Jennings, arweinydd diogelwch dŵr rhanbarthol yr RNLI, ei fod yn 'hyderus' y gall y gwasanaeth symud ymlaen gyda 'gorsaf bad achub cynhwysol a chynaliadwy' ym Mhwllheli.

Dywedodd: "Mae trafodaethau gyda chyn-aelodau o'r criw wedi bod yn hynod gadarnhaol ac rydym yn falch o groesawu'n ôl y rhai sy'n cytuno â'n gwerthoedd ac sy'n ymrwymo i symud ymlaen o'r anawsterau diweddar.

"Mae wedi bod yn gyfnod heriol ym Mhwllheli a hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi rhannu eu pryderon a'u dyhead i fynd yn ôl i achub bywydau yn y dŵr.

"Mae'r criw nawr yn awyddus i edrych i'r dyfodol ac ail-ganolbwyntio eu hymdrechion ar ail-ddechrau gwasanaeth y bad achub."

Yn y cyfamser, mae'r elusen yn galw ar wirfoddolowyr newydd i ymuno â'r gwasanaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.