Newyddion S4C

Mynyddoedd Eryri yn helpu newid bywyd dyn oedd yn gaeth i alcohol a chyffuriau

Newyddion S4C 13/02/2024

Mynyddoedd Eryri yn helpu newid bywyd dyn oedd yn gaeth i alcohol a chyffuriau

“Oni wedi brifo pawb oedd y bwysig imi, pawb oni’n caru..."

Yn ddi-gartref, yn ddi-waith ac yn gaeth i alcohol a chyffuriau, mi oedd Rob Havelock o Borthmadog wedi colli bob gobaith.

Ond ag yntau flwyddyn yn sobor bellach, mae'n dweud fod mynyddoedd Eryri wedi rhoi cyfle arall iddo fwynhau bywyd.

Ar ôl symud yn ôl o Fanceinion i Gymru er mwyn derbyn cymorth, mae o rŵan yn annog eraill i wneud yn fawr o'r budd a ddaw drwy fwynhau'r Parc Cenedlaethol, gan sefydlu grŵp cerdded arbennig i'r rhai sy'n gwella o ddibyniaeth.

Yn ôl Parc Cenedlaethol Eryri, mae stori Rob, sy'n 39 oed, yn brawf o lwyddiant llesol bywyd natur Eryri.

“Mi oni’n unig efo ddim llawer yn mynd ymlaen yn fy mywyd”, meddai. 

“Oni wedi brifo pawb oedd y bwysig imi, pawb oni’n caru... o'n i’n ddigartref ac yn ddi-waith a dim llawer o obaith”. 

Dywedodd Rob fod ei broblemau gyda chyffuriau ac alcohol wedi dechrau ugain mlynedd yn ôl ond bod ei ddibyniaeth wedi gwaethygu bum mlynedd yn ôl wrth fyw ym Manceinion. 

“O'n i’n dibynnu arnyn nhw i fyw, yr unig beth o'n i’n codi allan o 'ngwely am... mi ath fy mhriodas lawr y draen a doedd gennai’m llawer o ddewis ond symud yn ôl i Gymru”. 

Symud

Wrth benderfynu dod yn nol i fyw i Ogledd Cymru fe ddechreuodd dderbyn help gan dîm Penrhyn House ym Mangor sy’n helpu pobl sy’n gaeth i sylweddau ‘dan gynllun North Wales Recovery Communities.

Image
Rob Havelock

“Dyma sut nesh i ddarganfod y mynyddoedd, er bod nhw reit o 'mlaen i am yr holl flynyddoedd, ond gesh i gynnig mynd fyny’r Wyddfa drwy Penrhyn House a nesh i ddisgyn mewn cariad.”

Mi ddechreuodd Rob gerdded ar fynyddoedd Eryri yn rheolaidd ac ochr yn ochr â’r cymorth yr oedd yn derbyn ym Mangor, fe sylwodd ar rym byd natur a’r effaith ar ei iechyd meddwl.

Mae o bellach wedi sefydlu grŵp ‘Sober Snowdonia’, grŵp cerdded i bobl sy’n gwella o ddibyniaeth.

Er bod y grŵp yn weddol newydd mae’n dweud fod yr ymateb wedi bod ‘yn anhygoel’.

'Hyder'

“Nesh i jest dechrau meddwl, ‘ti di cael hyder trwy gerdded y mynyddoedd yn Eryri’, pam cadw o i fy hun.. mae’n amser i helpu pobl eraill”. 

Image
Rob a'r grŵp 'Sober Snowdonia'
Rob a'r grŵp, 'Sober Snowdonia'

Un o flaenoriaethau Parc Cenedlaethol Eryri ydi hyrwyddo buddiannau’r ardal mewn cyd-destun iechyd a lles, ac mae’r parc yn dweud fod stori Rob a’i grŵp yn ysbrydoledig. 

“Mae pobl leol a grwpiau fel Rob yn bwysig, mae’r adnodd yn bwysig, meddai Peter Rutherford, Rheolwr Mynediad, Iechyd a Lles Parc Cenedlaethol Eryri. 

“Dwi’n edmygu pobl sy’n wynebu pethau fel hyn yn dod allan mewn grwpiau.

“Mae’n hynod bwysig inni fod ni’n gallu sicrhau fod yr adnodd yna iddyn nhw ei ddefnyddio”, meddai.

Fe ddaw sefydlu’r grŵp ar gyfnod tyngedfennol i Rob sydd newydd gyrraedd blwyddyn heb alcohol na chyffuriau. 

“Ma’n grêt o deimlad a rŵan helpu pobl ffeindio Eryri hefyd, ma’n endless dydi, be elli di gal a ma reit ar y stepen drws ac am ddim!”

Gyda chymaint o ddiddordeb mae’n dweud mai'r gobaith ydi cynnal un daith y mis ac mae'n annog unrhyw un sydd â dibyniaeth i gysylltu. 

*Os ydi cynnwys yr erthygl hon wedi peri gofid ma cymorth ar gael ar wefan Cymorth S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.