
Cyn-seren Coronation Street yn cefnogi ymgyrch i adnewyddu theatr yn Sir Conwy
Mae cyn-seren yr opera sebon Coronation Street wedi cefnogi ymgyrch i adnewyddu theatr hanesyddol yn Sir Conwy.
Mae Suranne Jones, ddaeth i amlygrwydd yn chwarae rôl Karen McDonald yn yr opera sebon ar ITV, wedi helpu Theatr Colwyn i godi dros £1,000.
Bydd adroddiad sy'n amlygu'r angen am seddi newydd yn y theatr yn cael ei drafod yng nghyfarfod pwyllgor Cyngor Sir Conwy yr wythnos nesaf.
Yn ôl yr adroddiad, mae angen gwario tua £37,000 ar y seddi er mwyn sicrhau dyfodol y theatr.
Dywedodd yr adroddiad: "Mae’r seddi yn awditoriwm Theatr Colwyn wedi mynd yn frau a chael eu difrodi oherwydd defnydd hirfaith.
"Tra bod cydrannau seddi unigol – gwaelodion, cefnau a breichiau – wedi’u disodli lle bo’n bosibl, mae llawer yn parhau i fod mewn cyflwr gwael."
Y llynedd cyflwynodd rheolwr y theatr gais am grant i Gyngor Celfyddydau Cymru i dalu am adnewyddu seddi’r awditoriwm, ond fe gafodd y cais ei wrthod.

Ers hynny, mae’r theatr ar Ffordd Abergele ym Mae Colwyn wedi bod yn cynnal ymgyrch codi arian.
Un sydd wedi cefnogi'r ymgyrch yw Suranne Jones, sydd hefyd wedi ymddangos yn y dramâu Vigil a Gentleman Jack.
Fe aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud: "Yn ystod cyfarfodydd blaenorol, daeth hi'n amlwg fod angen dechrau ymgyrch codi arian.
"Mae cyflwr y seddi yn amharu ar foddhad cwsmeriaid ac incwm y dyfodol, oherwydd gallai seddi wedi'u difrodi atal cwsmeriaid rhag mynd i berfformiadau.
"Ym mis Hydref 2024, cefnogodd yr actor Suranne Jones yr ymgyrch trwy greu fideo i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i roi arian at yr achos.
"Fe gafodd y fideo ei chwarae yn ystod tymor y pantomeim, gan arwain at gasglu £1,500."
Yn ôl yr adroddiad, mae'r ymgyrch bellach wedi codi £1,710 ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiadau codi arian.
Dywedodd yr adroddiad: "Amcangyfrifir mai cyfanswm y gost ar gyfer adnewyddu holl seddi’r awditoriwm yw £37,000. Fe wnaeth y set flaenorol o seddi bara tua 20 mlynedd.
"Gyda digon o arian, gallai’r gwaith adnewyddu ddigwydd rhwng diwedd mis Awst a chanol mis Hydref 2025, cyfnod gydag ychydig iawn o berfformiadau.
"Mae disgwyl i’r broses, gan gynnwys tynnu seddi ac ailosod seddi, gymryd hyd at chwe wythnos."
Mae disgwyl i Gydbwyllgor Rheoli Theatr Colwyn gyfarfod ddydd Llun i drafod y pwnc.
Llun: Dave J Hogan/Getty Images