![Capel wedi dymchwel](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/Untitled%20design-56.png?itok=tORKUgHr)
Rhan o gapel wedi dymchwel yn Rhondda Cynon Taf
Mae rhan o hen gapel wedi dymchwel gan achosi difrod i gerbyd a rhwystro’r ffordd mewn pentref yn Rhondda Cynon Taf.
Roedd rhan sylweddol o wal flaen y capel wedi cwympo ar Stryd y Capel yn Aberllechau am oddeutu 18.30 nos Lun.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i’r digwyddiad yn dilyn adroddiadau fod yr adeilad wedi dymchwel, ac mi oedden nhw’n bresennol am nifer o oriau wedi’r digwyddiad.
Roedd gweithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn bresennol.
Cafodd y ffordd ger y capel ei chau i’r ddau gyfeiriad am gyfnod, ac roedd rhai ffyrdd cyfagos, sef Stryd Bailey a Stryd Bailey Is, hefyd ar gau.
Mae Heddlu De Cymru wedi annog y cyhoedd i osgoi’r ardal ac mae disgwyl oedi ar y ffyrdd yno am gyfnod pellach.
![Capel wedi dymchwel](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2024-02/Untitled%20design-56.png?itok=tORKUgHr)
Lluniau: Cynghorydd Andrew Morgan/X