Newyddion S4C

Pryderon dros swyddi wrth i The Body Shop fynd i ddwylo'r gweinyddwyr

13/02/2024
The Body Shop

Mae’r cwmni colur a gofal croen, The Body Shop, wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r cwmni, sydd â dros 200 o siopau ar draws y DU gan gynnwys chwech yng Nghymru, wedi penodi'r cwmni FRP Advisory i oruchwylio’r broses, yn sgil blynddoedd o "heriau ariannol".

Maae siopau'r cwmni yng Nghymru yng Nghaerfyrddin, Abertawe, Pen-y- bont ar Ogwr, Caerdydd, Brychdyn a Llandudno.    

Dywedodd FRP y bydd y gweinyddwyr yn “ystyried pob opsiwn i ddod o hyd i ffordd ymlaen i’r busnes” ar ôl blynyddoedd o drafferthion ariannol, a hynny yn ystod cyfnod heriol i siopwyr.

Bydd y busnes yn parhau i fasnachu trwy siopau ac ar-lein yn ystod y broses weinyddu.

Nid yw'n glir eto faint o swyddi fydd yn cael eu colli yn sgil y cyhoeddiad.

Mewn datganiad, dywedodd y gweinyddwyr: “Mae The Body Shop yn parhau i gael ei arwain gan ei uchelgais i fod yn frand harddwch modern, deinamig, sy’n berthnasol i gwsmeriaid ac yn gallu cystadlu am y tymor hir.

“Mae creu busnes mwy ystwyth a sefydlog yn ariannol yn y DU yn gam pwysig tuag at gyflawni hyn.”

Dyma yw’r trydydd tro i’r Body Shop newid dwylo wedi i’w sylfaenydd, Y Fonesig Anita Roddick, werthu’r cwmni am y tro cyntaf yn 2006, a hynny flwyddyn cyn ei marwolaeth.

Fe brynodd cwmni rhyngwladol L’Oreal y busnes am £652m. Roedd nifer o bobl wedi gwrthod prynu o’r busnes ar y pryd, gan ddadlau fod moesau L’Oreal yn “groes” i hanfodion The Body Shop o beidio profi ar anifeiliaid.

Cafodd The Body Shop ei werthu eto i un o gewri’r byd colur, Natura o Brazil, yn 2017 am £880m. Fe brynodd Aurelius y cwmni am £207m yn hwyr y llynedd.

Llun: Wikipedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.