Yr Arlywydd Biden yn galw ar Israel i 'ddiogelu' Palesteiniaid cyn parhau ymosodiadau yn Rafah
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, wedi rhybuddio na ddylai ymosodiad tir parhau yn ninas Rafah “heb gynllun i sicrhau diogelwch” yr un filiwn o bobl Palesteina sy’n ceisio am loches yno.
Dywedodd yr Arlywydd Biden fod ‘na nifer o ddinasyddion sydd wedi gorfod ffoi i’r ardal a’u bod yn “agored i niwed” o ganlyniad.
Mae’n annog byddin Israel fod angen gwarchod a diogelu dinasyddion Palesteina cyn i unrhyw ymosodiad barhau.
Wrth gwrdd â’r Brenin Abdullah o Jordan yn Washington ddydd Llun, dywedodd yr Arlywydd Biden ei fod yn apelio at fyddin Israel i atal unrhyw ymosod pellach.
“Mae nifer o bobl yno wedi gorfod ffoi, ac wedi gorfod ffoi sawl gwaith.
“Maen nhw wedi ffoi o’r trais yn y gogledd i Rafah a nawr maen nhw’n agored i niwed.
“Mae angen iddyn nhw gael eu diogelu. Rydyn ni wedi bod yn glir o’r ddechrau, rydym yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i orfodi pobl Palesteina oddi Gaza.”
Ymosodiad tir
Fe ddaw’r galwadau yn dilyn adroddiadau bod Israel wedi ymosod yn drwm ar y ddinas, sydd ar y ffin ddeheuol a’r Aifft, yn ystod y dyddiau diwethaf – a hynny wedi i Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, gyhoeddi cynlluniau ei fyddin i ddechrau ymosodiad tir yno ddydd Gwener ddiwethaf.
Yn ôl y gwasanaeth iechyd yn Gaza, sy'n cael ei redeg gan Hamas, cafodd o leiaf 164 o Balesteiniaid eu lladd wedi ymosodiad dros nos Sul a chafodd o leiaf 200 eu hanafu.
Roedd y Tŷ Gwyn eisoes wedi dweud yr wythnos diwethaf na fyddan nhw’n cefnogi ymgyrchoedd Israel yn Rafah os nad oedd ystyriaeth lawn am les ceiswyr lloches yno.
Ddydd Llun, dywedodd Ysgrifennydd Tramor y DU, David Cameron, y dylai Israel “stopio” a “meddwl o ddifrif” cyn cymryd camau pellach yn Rafah.
Roedd pennaeth polisi tramor yr Undeb Ewropeaidd (EU), Josep Borrell, hefyd wedi annog cynghreiriaid Israel i roi’r gorau i anfon arfau i’r wlad, gan fod “gormod o bobl” bellach yn cael eu lladd yn Gaza.
Roedd Rafah yn un o’r unig ranbarthau nad oedd wedi’u dargedu eto gan Israel mewn ymosodiad tir. Mae dros hanner poblogaeth Gaza o 2.3 miliwn o bobl wedi cymryd lloches yn y ddinas, oedd yn gartref i 250,000 o bobl yn unig cyn y rhyfel rhwng Israel a Hamas.
Yn ôl Israel, dyma’r cadarnle olaf sy’n weddill i ymladdwyr Hamas yn Gaza, ar ôl mwy na phedwar mis o wrthdaro, wedi ymosodiad gwaedlyd y grŵp milwriaethus ar 7 Hydref ar Israel.
Ddydd Sul fe gafodd ddau o wystlon, Fernando Simon Marman, 60 oed, a Louis Har, 70 oed sy'n wreiddiol o'r Ariannin, eu hachub gan fyddin Israel yn ystod ymgyrch yn ninas Rafah.