Newyddion S4C

Dosbarthiadau ffitrwydd i helpu mamau newydd yn 'hollbwysig'

12/02/2024

Dosbarthiadau ffitrwydd i helpu mamau newydd yn 'hollbwysig'

I Catrin Jones o Bwllheli, mae cadw'n heini'n hynod o bwysig. Ar ôl iddi roi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf daeth yn anoddach i ymarfer yn rheolaidd.

"Pan ges i'r ferch gyntaf, o'n i'n mynd at hyfforddwr yn ei chartref. Wnes i ddeud o'n ni ddim yn gallu dod achos bod angen i'r babi cysgu. Dyma hi'n deud 'Paid â gweithio o gwmpas y babi mae'r babi'n gorfod gweithio o gwmpas chdi!'

"Ers hynny, dw i'n mynd a'r babi hefo fi i bobman."

Dechreuodd Catrin fynd i sesiynau ar gyfer rhieni gyda phlant ifanc. Ers hynny, mae'n parhau i fynd i'r gampfa ac yn mynd a'i phedwar plentyn gyda hi i'w dosbarthiadau ffitrwydd.

"Dw i'n dod a nhw pan oeddan nhw yn y set babi i rwan ac mae'r ferch hynaf yn naw oed."

Beth yw pwysigrwydd y dosbarthiadau hyn i chi?

"Fedra i'm egluro pa for falch bod fi'n cael dod a'r plant hefo fi yn feddyliol, yn gorfforol. Dw i'n athrawes sy'n gweithio llawn amser. Mae dod i'r ganolfan gyda'r nos neu y boreau pam o'n i ar famolaeth yn gwneud i fi deimlo gymaint gwell.

"Mae'r plant yn cysylltu mynd i ymarfer a gweld fi'n teimlo'n well."

Mae dosbarthiadau sy'n galluogi rhieni i ymarfer gyda'u babi yn dod yn fwy poblogaidd. Pan chi'n barod, pump step ymlaen. Yn Ninas Dinlle ar arfordir Gwynedd mae Cadi Fon yn arwain sawl sesiwn sy'n helpu mamau i gadw'n heini.

"Un o'r pethau anodda efo bod yn fam newydd ydy sylwi bod gennych ddim llawer o amser i chi'ch hunan. Mae'r babi eisiau fod efo chi trwy'r amser. Weithiau, mae'n stressful i roi'r babi i rywun pan maen nhw mor fach.

"Mae gallu ymarfer efo'r babi yn y carrier yn fonws. Maen nhw yna o'ch blaenau ac yn gweld y mamau'n symud ac maen nhw'n cael yr awyr iach ac yn symud eu hunain."

"Fel Mam brysur a dw i'n gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener mae'n braf bod rhywle i ni gael mynd ar nosweithiau. Dw i'n teimlo'n gyfforddus ac mae Cadi'n brilliant ac mae'n pwsho ni i wneud ein gorau.

"Dw i'n gweld e'n help mawr efo'n iechyd meddwl a dw i'n cadw'n heini. Dw i'n dod i weithio allan a theimlo'n dda am fy hun."

Cam wrth gam, mae'n debyg bod y gefnogaeth sydd ar gael i helpu mamau newydd gadw'n heini yn cynyddu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.