Newyddion S4C

O Sussex i Gaerfyrddin: Y bachgen ysgol deithiodd oriau i fedyddio ei gwrwgl ar Afon Tywi

12/02/2024
Cwrwgl Finley

Ar ôl adeiladu'r cwrwgl ei hun, mae bachgen ysgol o Sussex wedi teithio am oriau i Gaerfyrddin i'w ddefnyddio yn Afon Tywi.

Roedd Finley sy'n 13 oed wedi cysylltu â Chymdeithas Cwrwgl Caerfyrddin y llynedd er mwyn gofyn am gymorth gyda'i brosiect ysgol.

Mae'r prosiect hwnnw wedi cymryd blwyddyn i'w gwblhau. 

Ac er mwyn nodi hynny, fe deithiodd Finley dros 250 o filltiroedd i Gaerfyrddin er mwyn dysgu mwy am y grefft ac achub ar y cyfle i deithio yn ei gwrwgl ei hun ar Afon Tywi.  

Dywedodd Julie Rees o Gymdeithas Cwrwgl Caerfyrddin bod Finley wedi cysylltu am gymorth a bod ganddo ddiddordeb mawr yn y traddodiad.

"Ni dderbyniodd lawer o gymorth yn agosach i adref," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ac roedd ganddo ddiddordeb yn hanes Cymru a'r traddodiadau sydd yn ymwneud â chwryglau yng Nghymru.

"Rydym wedi bod yn gweithio gyda Finley dros alwadau Zoom ac e-byst dros y flwyddyn diwethaf, ac roedd e wedi gallu dod lawr i'n gweld dros y penwythnos a mynd ar yr afon i fedyddio ei gwrwgl.

Image
Finley
Dyma Finley yn gweithio ar ei gwrwgl yng Nghaerfyrddin. Llun: Julie Rees

"Mae wedi bod yn anhygoel gwylio’r unigolyn brwdfrydig hwn yn dysgu am ein traddodiad a’i wylio’n dysgu sgiliau newydd, y bydd yn siŵr o’u datblygu ymhellach."

Mae cwrwgl yn gwch bychan crwn wedi'i wneud o wiail, wedi'i orchuddio â defnydd dal dŵr ac mae angen rhwyf er mwyn teithio ynddo.

Mae pysgota mewn cwrwgl yn ddull sydd yn deillio yn draddodiadol o Gymru ac Iwerddon.

Prif lun: Julie Rees
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.