Cynghorwyr Môn yn ymgynnull i drafod a ddylid cau ysgol leiaf yr ynys
Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, mae cynghorwyr a swyddogion Ynys Môn wedi cefnogi cynlluniau i gau ysgol leia'r sir yn ddiweddarach eleni.
Dim ond naw o ddisgyblion sydd yn Ysgol Carreglefn, a hi ydi'r ysgol gynradd sydd â'r costau uchaf fesul disgybl yng Nghymru gyfan.
Y bwriad yw cau'r ysgol a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Llanfechell ym mis Medi 2024.
Dywedodd Marc Berw Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Cyngor Môn: “Gallaf gadarnhau y bydd cynnig sy’n argymell cau Ysgol Carreglefn yn dod gerbron ein Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac yna’r Pwyllgor Gwaith.
“Bellach, dim ond naw o ddisgyblion sydd yn Ysgol Carreglefn a hynny’n gyfystyr â 80% o leoedd gwag.
"Mae pedwar o’r disgyblion yma ym mlwyddyn chwech ac mae’r ysgol ei hun yn rhagweld y bydd pump neu lai o ddisgyblion yn mynychu o fis Medi 2024 ymlaen.
Ychwanegodd, “Carreglefn hefyd sydd â’r gost uchaf fesul disgybl o holl ysgolion cynradd Cymru ar £17,200 y disgybl, sydd dair gwaith yn uwch na’r cyfartaledd cost y pen ar gyfer gweddill Ynys Môn.
“Disgwylir i’r cynnig gael effaith gadarnhaol ar safonau addysg ac, os bydd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno cau, byddai rhybudd statudol yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgol.
"Byddai hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â holl ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru.”
Cafodd y cynnig ei drafod gan aelodau o Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y cyngor ddydd Mawrth. Mae'r penderfyniad terfynol yng ngofal y Pwyllgor Gwaith.