Newyddion S4C

Canolfannau YMCA yng Nghymru 'o dan bwysau' i ddod o hyd i gyllid

13/02/2024
Canolfan YMCA Hirwaun

Mae canolfannau YMCA yng Nghymru “ o dan bwysau” i ddod o hyd i gyllid, meddai un o’u gweithwyr yng Nghwm Cynon – a hithau wedi gweithio i’r elusen ers dros 40 mlynedd.

Fe ddaw wrth i’r YMCA alw am ragor o gyllid gan ddweud bod eu gwasanaeth yn “hanfodol” er lles pobl ifanc yn eu cymunedau lleol.

Mae gan yr elusen, sydd yn cefnogi plant, phobl ifanc a theuluoedd drwy ddarparu gofal gwirfoddol, cyfleoedd am hyfforddiant a chyngor ar sut i ganfod tŷ, cyfanswm o 14 o ganghennau yng Nghymru, gyda'r mwyafrif wedi eu lleoli yn y de ddwyrain.

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, dywedodd yr YMCA eu bod wedi profi toriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hynny wedi golygu bod miloedd o bobl ifanc wedi “colli cyfleodd” i fagu hyder a datblygu sgiliau yng Nghymru a Lloegr.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Gail Reed o ganolfan YMCA Hirwaun bod canolfannau o’r fath “o dan bwysau” i ddod o hyd i gyllid er mwyn parhau â'u gwasanaethau.

“Mae’r arian sydd ‘da ti; fe allet ti ei gael am un flwyddyn ac wedyn fe all hyn gael ei dynnu'r flwyddyn wedyn," meddai. 

“Mae’n rili anodd i godi arian trwy’r amser, yn enwedig ar gyfer pobl yn eu harddegau gan nad ydyn nhw’n boblogaidd iawn mewn ymgyrchoedd i godi arian.”

Yn ôl gwaith ymchwil ar y cyd gydag undeb Unsain, mae nifer y canolfannau YMCA yng Nghymru wedi gostwng 62% yn ystod y degawd diwethaf.

Ac mae nifer y staff hefyd wedi gostwng “yn raddol” ers 2015, gyda nifer o weithwyr llawn amser wedi gostwng gan dros draean ers 2012.

Ychwanegodd Ms Reed y byddai cyllid pendant, yn ogystal â mwy o gyllid gan awdurdodau lleol yn “bendant o fudd,” a byddai hynny’n lleddfu unrhyw straen.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi darparu £13m o gyllid uniongyrchol eleni i helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol a sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yn cefnogi pobl ifanc yn eu hardaloedd lleol.

 "Yn wahanol i Loegr, rydym wedi treblu'r cyllid uniongyrchol sydd ar gael ers 2018, gan adlewyrchu'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial."

'Pwysau sylweddol'

Mae’r YMCA, sef elusen hynaf Cymru a Lloegr yn darparu gwasanaethau i bobl ifanc yn eu cymunedau lleol, wedi galw ar lywodraethau nesaf Cymru a’r DU i ddarparu mwy o gyllid i awdurdodau lleol fel nad oes rhaid iddyn nhw brofi toriadau pellach.

Heb fwy o gyllid fe fydd awdurdodau lleol “dan bwysau wrth geisio darparu rhagor o gyllid, heb orfod gwneud toriadau pellach mewn sectorau eraill,” meddai.

Dywedodd Denise Hatton, sef prif weithredwr YMCA Cymru a Lloegr: “Mae buddsoddi ym mhotensial pobl ifanc ein cenedl yn hanfodol ar gyfer adeiladu dyfodol disglair iddyn nhw.”

“Nid buddsoddiad mewn gwasanaethau ieuenctid yn unig fydd hyn; mae’n fuddsoddiad yng nghalon ac enaid pobl ifanc ein cenedl,” meddai. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Llywodraeth Leol, sy’n cynrychioli cynghorau yng Nghymru a Lloegr, bod awdurdodau lleol yn parhau i wynebu “pwysau sylweddol” o ran cyllid, gyda gwasanaethau yn dioddef toriadau yn sgil hynny.

“Rydym yn annog y Llywodraeth i ddarparu cyllid digonol i gynghorau fel y gallant gyflawni eu dyletswydd statudol i sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael mynediad at wasanaethau ieuenctid yn eu hardal.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran DCMS: “Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at wasanaethau ieuenctid, ac mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau cynnydd uwchlaw chwyddiant mewn cyllid i gynghorau i dros £64 biliwn ar gyfer 2024-25.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.