Niferoedd adar y môr yn 'gostwng yn sylweddol' yng Nghymru oherwydd ffliw adar
Mae'r niferoedd o rai mathau o adar y môr wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru oherwydd bod ffliw adar yn dal i ymledu, medd adroddiad newydd.
Mae Huganod, y Gwylanod Penddu, y Gwylanod Cefnddu Lleiaf, y Môr-wenoliaid Cyffredin a’r Môr-wenoliaid Pigddu wedi gostwng ledled y wlad.
Yn ôl elusen gwarchod adar y RSPB, maen nhw'n wynebu “trafferthion enbyd” wrth i arbenigwyr geisio rheoli'r haint.
Yn ôl adroddiad gan yr y RSPB a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, mae angen “camau gweithredu ar frys” er mwyn mynd i’r afael â’r ffliw adar, a hynny er mwyn diogelu ac “achub” adar y môr yng Nghymru.
Roedd Huganod, Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid Pigddu ymysg 11 o rywogaethau a oedd yn cynyddu mewn niferoedd yng Nghymru cyn i’r ffliw adar ymledu.
Mae nifer yr Huganod yng Nghymru wedi gostwng 54% ers 2015, sy’n “drychinebus” medd y RSPB – ac mae ffliw adar wedi cyfrannu at y gostyngiad yma, medd y ddogfen.
Mae niferoedd y Môr-wenoliaid Cyffredin a’r Môr-wenoliaid Pigddu hefyd wedi gostwng dros 40%.
Mae Gwylanod Penddu yn rhywogaeth sydd ar y rhestr goch oherwydd bod eu niferoedd wedi gostwng o'r blaen, a’r rhain sydd wedi dioddef y gostyngiad mwyaf, sef 77%, o’r holl rywogaethau adar y môr yng Nghymru ers cyfrifiad Seabirds Count yn 2015–21.
Ar ben hynny, mae niferoedd y Gwylanod Cefnddu Lleiaf wedi gostwng 24%.
Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod niferoedd rhywogaethau eraill fel Gwylanod Coesddu a Gwylanod Penwaig yn dal i ostwng mewn safleoedd nythu naturiol.
Dywedodd Julian Hughes, un o benaethiaid y RSPB: “Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr ar gyfer Cymru.
“Mae’n hanfodol bod y strategaeth yn cael ei chyhoeddi eleni a’i bod yn neilltuo cyllid ar gyfer cadwraeth adar y môr, yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n defnyddio ein moroedd, ac yn helpu nythfeydd i ehangu y tu hwnt i’r safleoedd bridio presennol.
“Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod poblogaethau’n cael eu paratoi’n well ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol”.
Fe gafodd yr achosion diweddaraf o ffliw adar eu cofnodi gyntaf yn y DU yn 2021, a daeth hi i'r amlwg fod yr haint yn fygythiad “newydd a sylweddol” i adar y môr yn 2022.