Plismon yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o ymosod
12/02/2024
Plismon yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o ymosod
Yn Llys y Goron Caernarfon, mae plismon o Heddlu'r Gogledd wedi gwadu iddo ymosod ar ddyn.
Fe ymddangosodd Richard Williams, 43, yn y gwrandawiad fore Llun, gan bledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad mewn cysylltiad ag arestiad Steven Clarke mewn gardd ym Mhorthmadog yng Ngwynedd ym mis Mai 2023.
Mae'r cyhuddiadau yn cynnwys un o dagu bwriadol ac un o ymosod gan achosi niwed corfforol.
Mae disgwyl i'r achos llys yng Nghaernarfon bara am bedwar diwrnod, gan ddechrau ar 16 Medi.
Mae Richard Williams yn parhau wedi ei wahardd o'i waith gyda Heddlu Gogledd Cymru.