Newyddion S4C

Trefnwyr Tafwyl yn cadarnhau dyddiad a lleoliad yr ŵyl yn 2024

12/02/2024
Tafwyl

Mae trefnwyr Tafwyl wedi cadarnhau y bydd yr ŵyl gerddorol yn dychwelyd i Barc Biwt ar gyfer 2024.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos Gorffennaf 13 a 14 eleni.

Mae disgwyl i dros 35,000 o bobl i fynychu’r digwyddiad yn ôl y trefnwyr, Menter Caerdydd.

Roedd yr ŵyl, a gafodd ei sefydlu yn 2006, wedi ei symud o Gastell Caerdydd i Barc Biwt yn 2023, ar ôl “tyfu’n rhy fawr” i safle’r castell, yn ôl y trefnwyr.

Eleni, fe fydd pedwar llwyfan gwahanol yn cynnwys perfformiadau cerddorol a digwyddiadau celfyddydol, yn ogystal â Pharc Chwaraeon, Pentref Plant, stondinau amrywiol a stondinau bwyd stryd.

Mewn datganiad gan drefnwyr Tafwyl, dywedodd llefarydd: “Mae’r digwyddiad bywiog hwn yn dathlu’r iaith Gymraeg gyda’i chyfoeth o gelfyddydau a cherddoriaeth ac ysbryd cymunedol cryf.

“Mae Tafwyl yn ŵyl ddeuddydd o hyd, gyda mynediad rhad ac am ddim. Mae’n cyflwyno’r gorau o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg, diwylliant Cymru a’r celfyddydau. 

“P'un ai ydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl neu'n awyddus i ddysgu mwy, mae rhywbeth i bawb.”

Roedd Bwncath, Band Pres Llareggub, Dafydd Iwan, Anni Glass, Cowbois Rhos Botwnnog a Tara Bandito ymhlith y prif enwau yn perfformio yn y gwŷl y llynedd.

Llun: Ffotonant

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.