Newyddion S4C

'Hyd at 100 o swyddi yn y fantol' yng Ngheredigion

12/02/2024

'Hyd at 100 o swyddi yn y fantol' yng Ngheredigion

Mae pryderon am ddyfodol hyd at 100 o swyddi mewn ffatri sy'n cynhyrchu bwyd yng Ngheredigion yn sgil cynlluniau i ailstrwythuro'r cwmni.

Mae cwmni Sensient, sy’n datblygu blasau a lliwiau bwydydd, wedi cadarnhau eu bod yn ystyried cau eu safle ger Felinfach yn Nyffryn Aeron.

Gydag oddeutu 100 o bobl yn gweithio ar y safle, mae posibilrwydd y gallai nifer o bobl golli eu swyddi petai’r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni Americanaidd: "Ar 8 Chwefror 2024, fe gafodd cynllun ei gyflwyno i optimeiddio portffolio i wneud y gorau o rai cyfleusterau cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd.

"Fel rhan o'r cynllun mae'r cwmni yn ystyried y posibilrwydd o gau'r cyfleuster gweithgynhyrchu yn Felinfach yng Nghymru, y posibilrwydd o gau'r swyddfa gwerthu yn Granada, Sbaen, a'r posibilrwydd o ganoli a dileu rhai swyddi gwerthu a gweinyddol."

Dywedodd Sensient y byddai cau’r ffatri yn arwain at arbedion o rhwng $8-$10m wrth ddiswyddo 130 o bobl ar draws eu holl safleoedd. 

Wrth siarad ar raglen BBC Radio Cymru, Dros Frecwast fore Llun, dywedodd un cynghorydd sir o Ddyffryn Aeron y byddai’n “ergyd anferthol” petai i’r ffatri'n cau, gan olygu y byddai nifer o bobl yn colli eu swyddi.

Byddai cau’r ffatri yn cael "impact massive ar yr economi leol, ar y bobl leol,” meddai’r Cynghorydd Ceris Jones. 

"Maen nhw'n gyflogwr anferthol yn yr ardal, ac mae gymaint o bobl yn dibynnu arno fe o ran eu swyddi - mae byti 100 o bobl yn gweithio 'ma,” ychwanegodd. 

Dywedodd hefyd ei bod yn "teimlo dros bob un sy'n gweithio yna a'r ansicrwydd yma o ddim gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd nesa'."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.