Newyddion S4C

Taylor Swift yn dathlu wedi i'w chariad ennill y Super Bowl

Taylor Swift a Travis Kelce

Cafodd un o sêr pop mwyaf y byd, Taylor Swift, ei gweld yn dathlu gyda'i chariad, Travis Kelce, ar ôl iddo ennill y Super Bowl gyda'i dîm Kansas City Chiefs.

Roedd y gantores Americanaidd  yn bresennol yn ystod y gêm rhwng y Chiefs, sef tîm ei chariad, a'r San Francisco 49ers yn Stadiwm Allegiant yn Las Vegas nos Sul.

Ar ôl perfformio mewn cyngerdd yn Tokyo nos Sadwrn, fe wnaeth Swift hedfan i'r Unol Daleithiau ar gyfer Super Bowl 58.

Ac wedi i Kansas City guro o 25 i 22, roedd y gantores i’w weld yn dathlu a chofleidio Kelce, cyn gadael iddo barhau gyda chyfweliadau wedi’r fuddugoliaeth.

Roedd sïon yn y wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol cyn y gêm yn awgrymu bod y pêl-droediwr Americanaidd yn bwriadu dyweddïo i Swift yn dilyn y gêm, ond ni ddigwyddodd hyn.

Yn ystod tymor y gwanwyn, roedd Swift yn wyneb cyfarwydd yng ngemau Kansas City, ac fe gafodd ei gweld yn aml wrth ochr mam Travis Kelce yn y dorf.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, ychydig ar ôl iddi gael ei henwi yn Berson y Flwyddyn gan gylchgrawn Time, cadarnhaodd Taylor Swift ei pherthynas gyda’r seren NFL.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.