Newyddion S4C

Kelvin Kiptum, deiliad record marathon y byd, yn marw mewn damwain car yn Kenya

12/02/2024
Kelvin Kiptum

Mae’r rhedwr o Kenya Kelvin Kiptum, deiliad record marathon y byd i ddynion, wedi ei ladd mewn damwain car yn ei wlad.

Bu farw’r rhedwr 24 oed a’i hyfforddwr, Gervais Hakizimana, o Rwanda, mewn gwrthdrawiad ar ffordd yng ngorllewin Kenya brynhawn ddydd Sul.

Roedd yn cael ei hadnabod fel un o redwyr gorau’r byd, ar ôl gosod record newydd am y marathon drwy redeg y pellter 26.1 milltir mewn dwy awr a 35 eiliad ym Marathon Chicago fis Hydref y llynedd.

Fe enillodd Marathon Llundain yn 2023 yn ogystal, mewn amser o ddwy awr, un munud a 25 eiliad.

Roedd disgwyl iddo gynrychioli ei wlad gyda’i gymar, Eluid Kipchoge, yn y Gemau Olympaidd yn Paris eleni.

Wrth dalu teyrnged iddo ar gyfwng cymdeithasol X, dywedodd Gweinidog Chwaraeon Kenya, Ababu Namwamba: “Newyddion i wneud i rywun deimlo’n ofnadwy o sâl! Mae Kenya wedi colli seren arbennig. Nid oes gennyf eiriau."

Dywedodd Seb Coe, arlywydd corff World Athletics, ei fod yn “athletwr anhygoel sydd yn gadael gwaddol anhygoel.”

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 23.00 (20.00 GMT) nos Sul, yn ôl asiantaeth newyddion AFP.

Dywedodd yr heddlu mai Mr Kiptum oedd yn gyrru’r car, ac fe wnaeth y cerbyd “golli rheolaeth a throi drosodd, gan ladd y ddau yn y fan a’r lle”.

Dywedodd llefarydd wrth AFP fod menyw oedd hefyd yn teithio yn y car, wedi ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau.

Roedd Kiptum yn dad i ddau o blant. Ar ôl dechrau cystadlu yn 2018, dim ond yn 2022 fe redodd yn ei farathon llawn cyntaf – blwyddyn cyn rhedeg y pellter yn gyflymach nag unrhyw un mewn hanes.

Roedd Hakizimana, 36 oed, wedi helpu bod yn hyfforddi’r rhedwr ers 2018, gan helpu ei baratoi i dorri’r record y llynedd.

Llun: Wotchit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.