Newyddion S4C

Cymro wedi ei barlysu mewn damwain wrth ymweld â'i ferch yng Ngwlad Thai

11/02/2024
lee francis.png

Mae tad o Rhondda Cynon Taf wedi ei barlysu ar ôl damwain motobeic ddifrifol yng Ngwlad Tai. 

Roedd Lee Francis, 54, o Bentre'r Eglwys wedi bod yn gweithio am 18 mlynedd fel therapydd galwedigaethol yn y gymuned, gan arbenigo mewn anabledd plant. 

Cafodd Lee a'i wraig Claire ddamwain motobeic ddifrifol wrth ymweld â merch Mr Francis yng Ngwlad Tai. 

Fe wnaeth Mr Francis ddioddef anafiadau difrifol gan gynnwys asennau wedi eu torri a thorri asgwrn ei gefn mewn tri lle gwahanol. 

Cafodd ei dderbyn i'r Uned Gofal Dwys yn y wlad lle bu i'w gyflwr waethygu ac ar ôl wythnos o geisio achub ei fywyd, cafodd lawdriniaeth ar ei asgwrn cefn er mwyn arbed ei goesau. 

Ond mae'r ddamwain wedi golygu fod gan Mr Francis anaf difrifol i'w asgwrn cefn ac mae wedi ei barlysu o'i ganol i lawr.

Fe wnaeth ei wraig, Claire, ddioddef anafiadau trawma difrifol i'w hwyneb a arweiniodd at gyfergyd hefyd.

Mae Mr Francis bellach wedi dychwelyd i Gymru ac yn parhau gyda'i driniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle mae disgwyl iddo aros am nifer o fisoedd. 

Mae ei deulu wedi dweud bod ei fywyd "wedi newid am byth" yn sgil ei anafiadau ac maen nhw wedi dechrau tudalen godi arian er mwyn ceisio ariannu ei driniaeth.

Dywedodd ei ferch ar y cyfryngau cymdeithasol: "I'r rhai ohonoch sy'n adnabod fy nhad, byddwch yn ymwybodol iawn o pa mor benderfynol ydi o i fyw bywyd i'r eithaf er gwaethaf yr heriau newydd sydd yn rhaid iddo wynebu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.