Newyddion S4C

Y Brenin yn cymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus am y tro cyntaf ers ei ddiagnosis canser

11/02/2024
brenin

Mae'r Brenin cymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus am y tro cyntaf ers y cyhoeddiad am ei ddiagnosis o ganser.

Wrth gerdded ochr yn ochr â'r Frenhines, cyrhaeddodd Charles Eglwys y Santes Fair Magdalen yn Sandringham, Norfolk, fore Sul.

Mae'n aros yn Sandringham yn dilyn ei gyfnod cyntaf o driniaeth canser.

Cyhoeddodd Palas Buckingham ddydd Llun fod gan y Brenin ffurf amhenodol o'r clefyd.

Cafodd ddiagnosis ar ôl i “fater o bryder ar wahân gael ei nodi” ac fe wnaeth profion gael eu cynnal tra’r oedd yn cael ei drin am gyflwr oedd heb gysylltiad â’r prostad.

Gwelwyd y Brenin 75 oed yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers ei ddiagnosis wrth iddo adael Clarence House mewn car ddydd Mawrth, y diwrnod ar ôl dechrau ei driniaeth, yn dilyn aduniad byr gyda Dug Sussex.

Mae Charles wedi gohirio ei holl ddyletswyddau cyhoeddus, ond mae'n parhau â gwaith gwladol swyddogol.

Ddydd Sadwrn diolchodd y Brenin i bobol am eu “negeseuon di-ri o gefnogaeth a dymuniadau da” a dywedodd ei fod yn “yr un mor galonogol” clywed sut mae rhannu ei ddiagnosis wedi helpu i hybu dealltwriaeth y cyhoedd o ganser.

Mewn neges i’r cyhoedd, dywedodd: “Hoffwn fynegi fy niolch mwyaf diffuant am y negeseuon niferus o gefnogaeth a dymuniadau da a gefais yn ystod y dyddiau diwethaf.

“Fel y bydd pawb sydd wedi’u heffeithio gan ganser yn gwybod, meddyliau caredig o’r fath yw’r cysur a’r anogaeth fwyaf.

“Mae’r un mor galonogol clywed sut mae rhannu fy niagnosis fy hun wedi helpu i hybu dealltwriaeth y cyhoedd a thaflu goleuni ar waith yr holl sefydliadau hynny sy’n cefnogi cleifion canser a’u teuluoedd ledled y DU a’r byd ehangach.

“Mae fy edmygedd gydol oes o’u gofal a’u hymroddiad diflino yn fwy fyth o ganlyniad i’m profiad personol fy hun.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.