Bachgen wyth oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei frathu yn ei ben gan gi XL Bully
Mae bachgen wyth oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei frathu yn ei ben gan gi XL Bully.
Digwyddodd yr ymosodiad ger fflatiau yn Bootle yn Lerpwl am 17:20 ddydd Sadwrn.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty ac mae'n parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Mae dynes 49 oed a dyn 30 oed, sydd ddim yn perthyn i'r plentyn, wedi cael eu harestio ac mae'r heddlu wedi cymryd y ci.
Cafodd y ddau eu harestio ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi oedd allan o reolaeth ac am achosi anaf.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gary Stratton o Heddlu Glannau'r Mersi: "Hoffwn dawelu meddwl y cyhoedd fod y bachgen yn derbyn y driniaeth a'r gofal gofal gorau posib am ei anafiadau, sy'n cael eu disgrifio fel rhai a fydd yn newid bywyd."
Mae rheolau newydd ar gyfer bod yn berchen ar gŵn XL Bully wedi dod i rym yn ddiweddar yng Nghymru a Lloegr.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei fod yn drosedd i fod yn berchen ar XL Bully o 1 Chwefror oni bai bod gan berchnogion yng Nghymru a Lloegr ffurflen sy'n eu heithrio.