Newyddion S4C

Dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn 78 oed ar goll yn Nhreharris

11/02/2024
taf bargoed.png

Mae Heddlu De Cymru wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn 78 oed oedd ar goll yn Nhreharris. 

Fe gafodd Keith Williams ei weld ddiwethaf ar Heol Caerdydd yn Nhreharris am 03:07 fore Sadwrn. 

Roedd yn gwisgo trowsus pyjamas llwyd, crys-t porffor ac esgidiau brown. 

Mewn diweddariad ddydd Sul, dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "gallu cadarnhau fod corff wedi cael ei ddarganfod o'r Afon Taf Bargoed ar ôl ymdrechion chwilio fore Sul. 

"Er nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, rydym yn credu mai corff Keith Williams ydy'r unigolyn. Mae ei deulu wedi cael gwybod ac rydym yn gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod y cyfnod yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.