Teyrngedau i fachgen chwech oed gafodd ei ddarganfod yn farw mewn car
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen chwech oed gafodd ei ddarganfod yn farw mewn car.
Cafwyd hyd i gorff Matthew Healy mewn car yn ardal Rathmoylan yn Sir Waterford, Iwerddon, yn oriau mân fore Gwener ychydig wedi hanner nos.
Roedd y bachgen yn aelod o glwb Park Rangers AFC yn Faithlegg.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol dywedodd y clwb: “Gyda thristwch mawr y dysgon ni am farwolaeth drasig un o’n chwaraewyr yr wythnos hon.
“Roedd Matthew yn aelod o’n carfan D7 a bydd colled fawr ar ei ôl gan ei gyd-chwaraewyr a’i hyfforddwyr.
“Mae ein meddyliau gyda’i anwyliaid ar yr amser amhosib o anodd hwn.”
Arestio dynes
Cafodd dynes yn ei thridegau ei harestio ger lleoliad y farwolaeth yn Nwyrain Dunmore ac mae’n cael ei chadw mewn gorsaf heddlu yn Sir Waterford.
Cafodd corff y bachgen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Waterford ar gyfer archwiliad post-mortem.
Mae'r Crwner lleol a Swyddfa Patholegydd y Wladwriaeth wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Dywedodd heddlu Iwerddon fod ymholiadau’n parhau ac mai canlyniadau’r archwiliad post-mortem fydd yn arwain trywydd yr ymchwiliad.
Cafodd gwylnos ei chynnal yn y Gadeirlan yn Waterford nos Sadwrn.
Dywedodd y cynghorydd Sinn Fein dros Ddwyrain Dunmore, Pat Fitzgerald, ei fod yn adnabod rhai o'r teulu yn dda.
“Mae pobl yn ceisio dod i delerau gyda hyn. Mae yna sioc a digalondid ar ôl y digwyddiad trasig hwn," meddai Mr Fitzgerald.
“Mae ein meddyliau gyda nhw i gyd. Mae pobl yn teimlo’n swth a’r cyfan y gallant ei wneud yw cynnig eu gweddïau a’u cydymdeimlad diffuant i’r teulu estynedig.”