Newyddion S4C

Pryder cynyddol am ymosodiad gan fyddin Israel ar ddinas Rafah yn Gaza

11/02/2024
Rafah UNHCR

Mae’r Arglwydd David Cameron wedi dweud ei fod yn “bryderus iawn” am ymosodiad tir arfaethedig gan Israel ar ddinas Rafah yn ne Gaza.

Mae Rafah, ar y ffin ddeheuol â’r Aifft, yn un o’r unig ranbarthau nad ydynt wedi’u targedu eto gan ymosodiad tir Israel ac mae’n darparu lloches i fwy na hanner poblogaeth Gaza o 2.3 miliwn o bobl.

Dyma’r cadarnle olaf sy’n weddill i ymladdwyr Hamas yn Gaza yn ôl Israel, ar ôl mwy na phedwar mis o wrthdaro wedi ymosodiad gwaedlyd y grŵp milwriaethus ar 7 Hydref ar Israel.

Ysgrifennodd yr Arglwydd Cameron, Ysgrifennydd Tramor Llywodradth Prydain ar X: “Pryderu’n fawr am y posibilrwydd o ymosodiad milwrol yn Rafah – mae dros hanner poblogaeth Gaza yn llochesu yn yr ardal.

“Rhaid i’r flaenoriaeth fod yn saib ar unwaith yn yr ymladd i gael cymorth i mewn a gwystlon allan, yna symud ymlaen tuag at gadoediad cynaliadwy, parhaol.”

Ymosodiad

Daw hyn ar ôl i brif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, nodi y byddai ymosodiad ar Rafah ar fin digwydd, gan ddweud ei fod wedi gofyn i’r fyddin baratoi ar gyfer symud cannoedd o filoedd o bobl oddi yno.

Mae hyn wedi codi cwestiynau am lle y byddai'n bosib symud sifiliaid, gydag Israel bellach wedi symud pobl o ddwy ran o dair o'r diriogaeth.

Ddydd Sadwrn, cafodd o leiaf 44 o Balesteiniaid - gan gynnwys mwy na dwsin o blant - eu lladd gan gyrchoedd awyr Israel yn Rafah.

Trydarodd ysgrifennydd tramor cysgodol Llafur, David Lammy, ddydd Gwener: “Mae 1.4 miliwn o Balesteiniaid sydd wedi’u dadleoli yn Rafah, heb unman i fynd. Dyma'r llwybr ar gyfer cymorth i Gaza. 

"Byddai ymosodiad Israelaidd yno yn drychinebus. Mae llawer gormod o sifiliaid eisoes wedi'u lladd neu eu hanafu.

“Rhaid i’r ymladd ddod i ben nawr. Mae angen cadoediad cynaliadwy arnom.”

Mae tensiynau wedi codi rhwng Mr Netanyahu a’r Unol Daleithiau, sydd wedi rhybuddio lluoedd Israel rhag ehangu yr ymgyrch filwrol yn Gaza i’r ddinas ddeheuol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.