Newyddion S4C

Cyn-ganwr Westlife yn gobeithio dilyn llwyddiant Wrecsam

11/02/2024
chorley

Mae’r canwr Gwyddelig Brian McFadden wedi dweud ei fod yn gobeithio troi Chorley FC yn Wrecsam newydd ar ôl llwyddiant diweddar y clwb o ogledd Cymru yn nwylo sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Dywedodd cyn-ganwr Westlife wrth gefnogwyr Chorley am freuddwydio am y Gynghrair Bêl-droed wrth iddo gymryd ei le yn safle VIP bach y clwb o Sir Gaerhirfryn ynghyd gyda Keith Duffy a Shane Lynch o’r grŵp pop Gwyddelig Boyzone.

Wrth wisgo crysau Chorley ac yn cydio mewn cwrw, llofnododd y tri eu henwau a thynnu lluniau gyda'r cefnogwyr yn y gêm bumed rownd Tlws yr FA ddydd Sadwrn yn erbyn Solihull Moors.

Nid yw'n glir eto pa ran fydd McFadden a Duffy - a ddechreuodd y ddeuawd Boyzlife gyda'i gilydd - yn ei chwarae yn y clwb. 

Ond awgrymodd McFadden fod cytundeb yn agos: “Mae'n eithaf agos. Dw i newydd fod yn sôn am ddod i’r gêm gartref nesaf gyda fy nheulu felly mae’n debyg y byddwch chi’n gweld cryn dipyn ohonom. Rydyn ni i mewn.”

Westlife a Wrecsam

Mae cymariaethau wedi’u gwneud gyda Wrecsam yn nwylo seren Deadpool, Ryan Reynolds a seren It’s Always Sunny In Philadelphia, Rob McElhenney, sydd wedi denu sylw byd-eang gyda chyfres ddogfen FX 'Welcome To Wrecsam'.

Dywedodd McFadden: “Mae’r hyn y mae’r bechgyn wedi’i wneud yn Wrecsam yn anhygoel ond mae Wrecsam yr un peth. Mae Wrecsam wastad wedi cael cefnogaeth enfawr, stadiwm wych, tref wych. 

"Y cyfan oedd ei angen oedd ychydig o gariad a gofal ychwanegol i'w helpu i wneud yr hyn y maent yn ei wneud.

“Rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni wneud yr un peth gyda Chorley. Edrychwch ar hyn... mae gennych chi ychydig filoedd o bobl allan yma yn cael amser gwych yn cefnogi'r tîm. Os gallwn helpu'r cefnogwyr hynny i gyrraedd breuddwyd uwch a gallwn fod yn rhan ohoni, byddai'n wych."

Ymweliad cyntaf

Hwn oedd ymweliad cyntaf y seren o Iwerddon â Chorley, a dywedodd: “Prynodd partner busnes Shane y clwb saith mis yn ôl a gofyn i Shane gymryd rhan.

“Dyw Shane ddim yn ddyn pêl-droed mewn gwirionedd ond roedd yn gwybod fy mod i a Keith yn caru pêl-droed felly fe wnaeth ein cynnwys ni, a Ronan. Rydyn ni eisiau bod yn rhan o rywbeth o'r gwaelod i fyny.

“Rwy’n gefnogwr Manchester United fy hun, mae gen i docynnau tymor yn Old Trafford, ond mae’n gorfforaethol erbyn hyn. Rydych chi'n edrych ar rywbeth fel Clwb Pêl-droed Chorley ac rydych chi'n gweld bod hwn yn perthyn i'r dref, mae'n perthyn i'r bobl, mae'n perthyn i'r gymuned.

“Er mwyn i ni allu cymryd rhan mewn rhywbeth ar y lefel honno a cheisio mynd ag ef i’r lefel nesaf, mae yna dipyn o ramant iddo.”

Llun: ITV

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.